Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld pwysau mawr ar gostau byw i breswylwyr yn ein cymunedau. I’r rhai sydd eisoes yn ei chael yn anodd i gydbwyso eu costau byw, mae’n gwneud penderfyniadau efallai y bydd rhaid i aelwydydd eu gwneud y gaeaf hwn hyd yn oed yn fwy anodd.
Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid lleol i greu rhwydwaith o fannau cynnes – lleoliadau lle gall preswylwyr lleol ddod ynghyd i gadw’n gynnes, cymryd rhan mewn gweithgareddau, cael cyngor ac efallai cael paned hefyd.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Mae 22 o sefydliadau lleol eisoes wedi cael grantiau i agor fel mannau cynnes ac mae’r ail rownd o arian grant bellach ar agor. Gall grwpiau a sefydliadau wneud cais am £1,000 i gynnig man cynnes i’n preswylwyr i’w redeg ochr yn ochr â’u gweithgareddau presennol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Ionawr 2023.
Gellir defnyddio’r arian i’w osod yn erbyn ystod o gostau – er enghraifft, costau ynni, costau gweithgareddau, deunyddiau sydd eu hangen neu gostau staffio.
I wneud cais darllenwch y Siarter ar gyfer Wrecsam ac Amlinelliad Cyllid a Chanllawiau Llywodraeth Cymru ac yna, os ydych chi’n hapus, cwblhewch y ffurflen gais a’i anfon dros e-bost at warmplaces@wrexham.gov.uk.
Os oes gennych chi syniad ond ddim yn siŵr sut i’w gyflwyno fel cais neu os ydych chi angen cymorth i wirfoddolwyr neu gymorth i sefydlu grŵp nid er elw er mwyn gwneud cais, cysylltwch â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Info@avow.org neu ffoniwch 01978 312556. Darperir y gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Gall Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam hefyd gynorthwyo gyda hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr ar ystod o bynciau yn cynnwys hyfforddiant achrededig diogelwch bwyd, Hawliau Lles a Chyflwyniad i Ymgeisio am Grantiau.
“Bydd mannau cynnes yn cael eu gwerthfawrogi yn ystod y misoedd nesaf”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Costau Byw, “Mae llawer o bobl yn cael trafferth dod a dau ben llinyn ynghyd ac wrth i ni wynebu’r tywydd oer, bydd mannau cynnes yn cael eu gwerthfawrogi gan breswylwyr yn ystod y misoedd nesaf fel rhywle croesawgar i fynd iddynt. Os ydych chi’n grŵp neu sefydliad yn Wrecsam, dylech ystyried gwneud cais am y grant i wneud bywyd ychydig yn haws i bobl yn eich cymuned.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI