Fel rhan o’n cefnogaeth i fusnesau Wrecsam, rydym yn ymestyn y grant Trawsnewid Trefi i ardaloedd y tu hwnt i ganol y dref.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Yn ogystal â chanol y dref, gall yr ardaloedd canlynol wneud cais hefyd:
Acrefair / Cefn Mawr, Y Waun, Coedpoeth, Gresffordd/Merffordd, Gwersyllt, Llai, Rhos a Rhiwabon
Gellir defnyddio’r grant i brynu eitemau fel byrddau awyr agored, cadeiriau, seddi a chyfleusterau cownter arlwyo, cysgodlenni a chanopïau awyr agored, sgriniau, bolardiau, cynwysyddion planhigion a mesurau cadw pellter cymdeithasol. Ni ellir defnyddio’r grant i dalu unrhyw gostau eraill fel cynnal a chadw, nwyddau na gwasanaethau.
Bydd y grant yn helpu i annog pobl i ddychwelyd i’r stryd fawr yn ddiogel tra bo cyfyngiadau fel mesurau cadw pellter a chyfyngu ar niferoedd cwsmeriaid mewn lle ac yn sicrhau bod cwsmeriaid yn teimlo’n hyderus wrth ymweld â safleoedd.
Mae hyd at £2,000 y cais ar gael gydag uchafswm grant o 80% o gostau cyffredinol yr eitemau a brynir. Croesawir ceisiadau ar y cyd.
Gwneir ceisiadau trwy https://www.wrecsam.gov.uk/service/covid-19-cefnogaeth-i-fusnesau/grant-thematig-trawsnewid-trefi-covid-19
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch grantiau@wrexham.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi, “Rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu ymestyn y grant hwn i ardaloedd eraill y mae angen cefnogaeth eu cymunedau arnynt os ydynt am ddarparu cadernid hirdymor dros y misoedd nesaf. Trwy ddarparu lle diogel i’w cwsmeriaid, byddant yn helpu i adfer hyder cwsmeriaid.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG