Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Grantiau Lleoedd Cynnes – mynegiant o ddiddordeb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Grantiau Lleoedd Cynnes – mynegiant o ddiddordeb
Pobl a lleY cyngor

Grantiau Lleoedd Cynnes – mynegiant o ddiddordeb

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 17, 2022 1:58 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Warm Places
RHANNU

Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, a gyda’r gaeaf yn agosáu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu gwneud popeth posib i gefnogi ei drigolion yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Mae’r cyngor angen cymorth a chefnogaeth gan ein partneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau ar draws y fwrdeistref sirol i gydweithio i gefnogi unigolion a theuluoedd bregus.

Mae’r cyngor yn dymuno darparu rhwydwaith o leoedd cynnes i gefnogi unrhyw un sy’n ei chael yn anodd gyda chostau byw. Rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol a fyddai’n gallu darparu lleoedd cynnes yn eu cymuned.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Grŵp Costau Byw: “Mae’r argyfwng costau byw y mae’r DU yn ei wynebu yn rhoi pwysau digynsail ar bobl, sy’n cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd ynghylch pryd a beth i’w fwyta, beth allant ei wneud mewn bywyd, a phryd y gallant fforddio i gynhesu eu cartref.

“Rydym eisiau gwneud mwy i helpu trigolion Wrecsam, ond ni allwn wneud hyn ar ben ein hunain. Rydym yn awyddus i weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol, gan ddatblygu’r gwaith gwych a wnaed yn ystod y pandemig, i greu rhwydwaith o leoedd cynnes ble gall pobl ddod ynghyd, cynhesu, aros yn gynnes a mwynhau rhywfaint o gwmni.

“Os yw unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu darparu lle cynnes y gaeaf hwn, rydym eisiau clywed gennych. Dyma ein cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymunedau a byddwn yn helpu trigolion yn ystod yr argyfwng hwn.”

Os ydych yn grŵp neu’n sefydliad sy’n gallu darparu lle cynnes e-bostiwch warmplaces@wrexham.gov.uk

Yn eich e-bost, dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw’r sefydliad
  • Cyfeiriad
  • E-bost
  • Rhif ffôn/symudol
  • Unigolyn cyswllt

(Sylwer y disgwylir i’r cynnig sylfaenol o le cynnes fod AM DDIM i bawb)

Grantiau Lleoedd Cynnes - mynegiant o ddiddordeb

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Abba Mae band teyrnged ABBA gorau’r DU yn do di Tŷ Pawb ar nos Wener 25ain o Dachwedd!
Erthygl nesaf Os na allwch chi fynd i Qatar, ewch i Wrecsam! Os na allwch chi fynd i Qatar, ewch i Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English