Bydd digonedd yn mynd ymlaen ar ddydd Sadwrn, 28 Mawrth ym Mhartneriaeth Parc Caia pan fydd y prosiect Isadeiledd Gwyrdd yn cael ei lansio’n swyddogol.
Mae gweithgareddau yn cynnwys prosiect ffotograffiaeth ‘Mae ein HawyGwyrddAgored yn Cyfrif’, taith gerdded trwy fywyd gwyllt, casglu sbwriel cymunedol, arddangosiadau belio gwair a pharth creu celf allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Bydd bwyd a lluniaeth ar gael diolch i’r Hub Café ym Mhartneriaeth Parc Caia.
Bydd gan y Prosiect Isadeiledd Gwyrdd gefnogaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cadw Cymru’n Daclus a Woodland Classroom a fydd yn siarad am yr holl ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn eich gofod gwyrdd yn lleol dros y misoedd nesaf.
Meddai Jacinta Challinor, Swyddog Isadeiledd Gwyrdd: “Byddwn yn rhoi blas i bobl o’r holl weithgareddau cyffrous wedi’u cynllunio trwy’r prosiect hwn. Rydym wedi paratoi i gynnig amrywiaeth anferthol o gyfleoedd i bob oedran a gallu, o brosiectau celf i reoli cynefinoedd a gallwch gymryd rhan ymhob un ohonyn nhw.’
Nod Prosiect Isadeiledd Gwyrdd yw gweithio gyda chymunedau i gyflawni cyfres o welliannau amgylcheddol ar ofod gwyrdd yn lleol ledled Wrecsam sydd o fudd i natur a phobl. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar blannu coed yn nyfroedd Alun, plannu perllannau a chreu dôl o flodau gwyllt ym Mharc Caia a diwrnod agored Cyfeillion Parciau yn Nhŷ Mawr. I glywed mwy am y gwaith sy’n digwydd yn sgil y Prosiect hwn ac i wirfoddoli ewch i dudalennau facebook ac instagram y Prosiect Isadeiledd Gwyrdd gan adael neges neu gysylltu â jacinta.challinor@wrexham.gov.uk am fwy o fanylion.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN