Mae Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ledled Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi’n lleol gan ein Tîm Ysgolion Iach.
Mae ennill y wobr yn golygu bod y grŵp wedi llwyddo i ddangos eu bod nhw wedi cyflawni camau gweithredu ar amrywiaeth eang o faterion iechyd yn cynnwys Maeth ac Iechyd y Geg, Gweithgarwch Corfforol/Chwarae’n Egnïol, Iechyd Meddwl ac Emosiynol, Lles a Pherthnasoedd, yr Amgylchedd, Diogelwch, Hylendid ac Iechyd a Lles yn y Gweithle.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar y meysydd iechyd hyn, maen nhw hefyd wedi ennill ‘Gwobr Boliau Bach’ sy’n cydnabod y bwyd sy’n cael ei weini yn y lleoliad. Mae ganddyn nhw fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu ynddo yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.
Dywedodd Louise Roberts, Swyddog Lleoliadau Cyn-ysgol Iach Cyngor Wrecsam: “Mae Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad. Mae amgylchedd y lleoliad yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan.
“Maen nhw’n croesawu pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arferion yn y lleoliad a gwneud y profiad yn un arbennig iawn i staff a phlant. Rwy’n siŵr y byddan nhw’n parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”
Dywedodd Mr Richard Hatwood, Pennaeth ac Unigolyn Cyfrifol y lleoliad, “Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr hon, mae’n dyst i waith caled y staff yn y lleoliad, y berthynas gadarnhaol sydd gennym ni â rhieni a gofalwyr yn ogystal ag egni a brwdfrydedd ein plant bendigedig!
“Mae’r wobr hon yn arbennig iawn ac yn rhywbeth y mae’r staff wedi gweithio’n galed dros gyfnod hir i’w hennill. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Awdurdod Lleol am eu cefnogaeth nhw o ran mynd â’r lleoliad drwy’r rhaglen.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD