Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod yfory (Dydd Mawrth, 11 Chwefror) ac mae ganddynt raglen faith i’w drafod.
Mae’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Busnes yn dod o dan y lach wrth i aelodau ystyried rhent ar gyfer 2020/21 a’r Cynllun Busnes.
Ac mae newyddion da ar gyfer ein tenantiaid y flwyddyn nesaf os yw’r Cynllun Busnes yn mynd yn ei flaen, gan ei fod yn clustnodi bron i £52 miliwn i barhau gyda’r gwelliannau i’r stoc dai a ddylai gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn ddiweddarach eleni.
Golyga hyn y bydd dros £336 miliwn yn cael ei wario hyd at 2021 a dylai hyn gynyddu yn 2028 i £436 miliwn.
Byddent hefyd yn ystyried ardal Dreftadaeth Brymbo wrth i Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Brymbo baratoi i gyflawni’r cam cyntaf yn ei gweledigaeth ar gyfer yr ardal.
Mae cynigion yr Ymddiriedolaeth yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer Wrecsam a bydd yn cyfrannu’n uniongyrchol i flaenoriaethau Cynllun y Cyngor o ran yr Economi, Pobl a Llefydd.
“Y Groves ar y rhaglen”
“Cymeradwyo penawdau’r telerau ar gyfer defnyddio hen adeilad Ysgol y Groves a’r maes chwarae gerllaw, a chymeradwyo’r camau gweithredu sydd eu hangen i gwblhau’r gwaredu.”
Fel eitem Rhan II, nid oes bosib datgelu manylion yr eitem hon, ond hoffwn sicrhau pawb y bydd yr adroddiad yn:
- Adeiladu ar y cynigion i adleoli cyfleusterau hyfforddi WAFC i hen safle Ysgol y Groves,
- Archwilio’r cyfleoedd ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd II yn dilyn ymarfer “Datgan Diddordeb” a gyflawnwyd y llynedd.
Nid oes unrhyw gynigion yn yr adroddiad i ddymchwel yr adeilad a chredwn y bydd y cynigion, os cânt eu cymeradwyo ac os byddent yn llwyddiannus, yn ddatrysiad cadarnhaol i’r safle, sydd wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd, ac yn dderbyniol i bawb sydd ynghlwm ei ddefnydd yn y dyfodol.
Mae erthygl flaenorol am y cynlluniau hyn a all fod o ddiddordeb i chi:
CPD Wrecsam yn cyflwyno cynnig am gae hyfforddi newydd y Llwyni i Gyngor Wrecsam
Ydych chi eisiau gwybod pam ein bod ni’n gofyn i’r wasg a’r cyhoedd adael cyfarfodydd ar adegau? Gallwch ddysgu mwy yma:
Gallwch ddarllen y rhaglen lawn yma
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch