Wedi’i bostio ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.
Mae safle’r Llwyni wedi ei wagio ac rydym ni wrthi’n glanhau ac yn diogelu’r ardal i atal unrhyw aneddiad yn y dyfodol.
Bydd unrhyw offer a sbwriel sydd ar ôl yn cael ei glirio o’r safle yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf.
Mae camerâu TCC yn yr ardal wedi eu symud fel eu bod yn ffilmio’r hen wersyll, a byddwn yn gosod arwyddion yn hysbysu’r cyhoedd o’r defnydd o gamerâu TCC. Bydd timau diogelwch y Cyngor yn parhau i batrolio a monitro’r safle.
Bydd Gwasanaethau Glanhau Cambrian, gyda chefnogaeth staff Tŷ Croeso (gwasanaeth camddefnyddio sylweddau), yn ymgymryd â gwaith clirio sylfaenol a fydd yn cynnwys clirio taclau cyffuriau ac unrhyw offer a sbwriel arall.
Yn dilyn hyn bydd prysg a llystyfiant ar ochr Ffordd Caer i’r safle yn cael ei glirio, a bydd ffens 200 metr o hyd yn cael ei chodi dros dro i ddiogelu’r safle.
Bydd y gwaith yma wedi ei gwblhau erbyn dydd Gwener 29 Medi.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Cynnydd cadarnhaol
Mae’r gwaith proffilio helaeth a wnaethpwyd wedi ein galluogi ni i gynnig pecynnau cymorth i nifer o bobl a oedd yn treulio amser ar safle’r Llwyni.
Rydym ni wedi gwneud cynnydd cadarnhaol gyda llawer iawn o’r unigolion ac maen nhw yn y broses o dderbyn cefnogaeth. Byddwn yn parhau â’r gwaith yma gyda chefnogaeth ein gweithwyr allgymorth a’ cydweithwyr o asiantaethau partner.
Mae datganiad gan y Cyng. Hugh Jones (Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol) yn manylu ar safiad y bartneriaeth o ran y gwaith.
“Mae swyddogion allgymorth sy’n gweithio ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam wedi bod yn ymgysylltu â’r rheiny ar safle’r Llwyni ers peth amser, gyda llawer o’r bobl ddiamddiffyn y daethant ar eu traws yn awyddus i dderbyn cymorth hirdymor.
“Mae llawer o’r rheiny ar y safle wedi symud o’u gwirfodd, ac mae nifer y bobl sy’n cysgu dros nos ar y safle wedi gostwng yn raddol.
“Roeddwn eisoes wedi dweud mai gwersyll dros dro fyddai’r Llwyni – nid oedd erioed i fod yn safle hirdymor ac o’r herwydd roeddem yn fodlon i’r safle wagio.
“Pwrpas y gwersyll a’r cynllun a luniwyd gan y Grŵp Aur (a oedd yn cynnwys gwleidyddion lleol, uwch swyddogion yr heddlu, y Cyngor ac asiantaethau eraill) oedd ymgysylltu â phobl ddiamddiffyn ar lefel gwasanaeth, fel bod modd iddyn nhw dderbyn cefnogaeth a gwellhad.
“Er bod pobl yn gadael y safle’n raddol yn effeithio ar allu gweithwyr allgymorth i weithio gyda phobl mewn angen mewn un lleoliad, nid yw cwmpas na nodau’r cynllun wedi newid, ac ni fwriadwyd erioed i’r Llwyni fod yn rhan anhepgor o’r strategaeth hon. Yr unig newid yn y cynllun yw’r angen i weithwyr gwrdd ag unigolion mewn man arall.
“Byddwn yn parhau â’r gwaith yma ac mae’r holl bartneriaid yn awyddus i gynnal y gefnogaeth a roddir i’r rheiny sy’n ymgysylltu. Mae hynny’n cynnwys helpu unigolion i ganfod llety a helpu’r rheiny sydd eisoes wedi canfod llety i reoli eu tenantiaethau yn well.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI