Anogir mentrau chwaraeon cymunedol ar draws Wrecsam i fanteisio ar gronfa a allai eu cynorthwyo i gyflawni eu rolau cyn y dyddiad cau am geisiadau.

Mae Chwaraeon Cymru, sy’n annog a chefnogi cyfranogiad chwaraeon ledled Cymru, yn cynnig hyd at £1500 ar gyfer grwpiau drwy’r Gist Gymunedol.

Mae cyllid pellach ar gael ar gyfer clybiau sy’n hyrwyddo chwaraeon ar gyfer merched, chwaraeon anabledd a chynhwysiant cymdeithasol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mae ceisiadau ar gyfer y rownd hon o gyllid ar agor tan ddydd Mercher, 11 Hydref ac fe fydd panel yn cyfarfod i drafod y ceisiadau ddydd Mercher, 25 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd â chyfrifoldeb am Hamdden: “Rydym yn gwybod bod digonedd o glybiau chwaraeon a ffitrwydd ar lawr gwlad ar hyd a lled Wrecsam, gyda llawer o bobl yn gweithio’n galed iawn i gynnal bob un ohonynt – fe fyddai’n bechod pe bai’r clybiau hyn yn colli’r cyfle am gyllid posib a fyddai o gymorth iddynt dyfu neu wella’r hyn y maent yn ei gynnig.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â Wrecsam Egniol.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Rheolwr Cynorthwyol Datblygu Chwaraeon yng Nghyngor Wrecsam, ar 01978 297359 neu drwy e-bost at louise.brady@wrexham.gov.uk

Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar y wefan hon.

I wneud cais ar-lein ewch i’r wefan hon.