Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wyt ti’n berson ifanc? Hoffet ti ddweud dy ddweud am y pethau sy’n digwydd yn Wrecsam? Os felly, dyma un ffordd i ti wneud hynny…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Wyt ti’n berson ifanc? Hoffet ti ddweud dy ddweud am y pethau sy’n digwydd yn Wrecsam? Os felly, dyma un ffordd i ti wneud hynny…
Busnes ac addysgPobl a lle

Wyt ti’n berson ifanc? Hoffet ti ddweud dy ddweud am y pethau sy’n digwydd yn Wrecsam? Os felly, dyma un ffordd i ti wneud hynny…

Diweddarwyd diwethaf: Medi 27, 2017 1:24 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Young person
RHANNU

Cwestiwn: A ddylai pobl ifanc gael dweud eu dweud ar faterion lleol pwysig? Addysg, cludiant, pethau sy’n effeithio ar eu bywydau pob dydd?

Cynnwys
  • “Beth sydd ynddo i mi?”
  • “Iawn. Rydych chi wedi gwerthu’r syniad i mi. Beth sydd angen i mi ei wneud?”

Wrth gwrs y dylen nhw!

Dylid gwrando ar bob aelod o’r gymdeithas, gan gynnwys pobl ifanc. Yn aml iawn mae pobl ifanc yn dod â safbwyntiau newydd ac unigryw i’r bwrdd.

Os ydych chi rhwng 11 a 25 mlwydd oed ac os oes gennych chi gysylltiad â Bwrdeistref Sirol Wrecsam (yn byw, yn derbyn addysg neu’n gweithio yma), fe allwch chi helpu i wneud yn siŵr bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed gan Gyngor Wrecsam a chyrff eraill sy’n gwneud penderfyniadau.

Sut medde chi? Drwy ymuno â Senedd yr Ifanc.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Meddai’r Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae’r Senedd yn chwarae rhan hanfodol i helpu’r Cyngor ddeall y pethau sy’n bwysig i bobl ifanc, ac mae’n dylanwadu cryn dipyn ar y gwaith rydym ni’n ei wneud.

“Mae’r Senedd yn ein cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau fel cyngor, ac yn ein helpu i ddeall sut mae pobl ifanc yn teimlo amdanynt.”

“Beth sydd ynddo i mi?”

Rydym ni wedi egluro pam bod y Senedd yn ddefnyddiol i’r Cyngor, ond beth sydd ynddo i chi? Pam ddylech chi roi o’ch amser?

Meddai Caroline Bennett, sy’n gweithio yng ngwasanaeth ieuenctid y Cyngor: “Gall ymuno â’r Senedd fod yn wobrwyol iawn.

“Mae’n hwyl, yn magu hyder ac yn darparu cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau unigryw.

“Er enghraifft, mae rhai o’r aelodau yn mynd i Lundain yn yr hydref ar gyfer Wythnos Senedd y DU.

“Byddan nhw’n cynrychioli Wrecsam ac yn cymryd rhan yn y drafodaeth Make your Mark yn Nhŷ’r Cyffredin ar y materion pwysicaf sy’n effeithio ar bobl ifanc.

“Mae cymryd rhan yn y Senedd hefyd yn edrych yn dda ar eich CV pan fyddwch chi’n ymgeisio am swydd neu le mewn prifysgol. Mae’n dangos bod gennych chi ddiddordeb yn y byd ehangach ac arnoch chi eisiau bod yn rhan o’r gymdeithas.

“Mae’n ffordd wych i gyfarfod pobl newydd ac mae’n sefydliad cyfeillgar a phleserus i fod yn rhan ohono.”

Senedd

“Iawn. Rydych chi wedi gwerthu’r syniad i mi. Beth sydd angen i mi ei wneud?”

Mae yna oddeutu 30 o lefydd ar gael ar y funud.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod rhwng 11 a 25 oed.

Mae’n rhaid i chi hefyd fod â chysylltiad â Bwrdeistref Sirol Wrecsam a mynychu cyfarfod ar ddydd Llun cyntaf pob mis.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n gwasanaeth ieuenctid ar 01978 317961 neu youngvoices@wrexham.gov.uk

Mae ar Wrecsam eich angen chi 🙂

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Creadigrwydd pobl ifanc yn y ffrâm mewn arddangosfa ym Mhrifysgol Glyndŵr Creadigrwydd pobl ifanc yn y ffrâm mewn arddangosfa ym Mhrifysgol Glyndŵr
Erthygl nesaf Homelessness Diweddariad am y Llwyni – Medi 28, 2017

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English