Ydych chi’n aelod o glwb chwaraeon yn Wrecsam?
Mae ’na lawer o grwpiau chwaraeon yn Wrecsam sy’n cynnig hyfforddiant ar chwaraeon fel pêl-droed, rygbi, bocsio, athletau, tennis a llawer mwy.
A ydych chi’n aelod o un o’r grwpiau chwaraeon cymunedol yma? Efallai eich bod chi’n rhan o redeg un?
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Os ydych chi, yna peidiwch â cholli’r cyfle i gael mwy o gyllid a allai eich helpu chi ym mhob ffordd, o gyfarpar hyd at hyfforddiant.
Mae ceisiadau ar gyfer rownd dau o gronfa Cist Cymunedol 2018 ar gael rŵan.
Mae’r rownd gyntaf a ddaeth i ben ddiwedd Ebrill wedi gweld cyfraniad o fwy na £12,000 i grwpiau lleol.
Mae ceisiadau ar gyfer y rownd bresennol o gyllid ar agor tan ddydd Mercher, 6 Mehefin ac fe fydd panel yn cyfarfod i drafod y ceisiadau ar ddydd Mercher, 20 Mehefin.
Gall grwpiau ymgeisio am hyd at £1,500 y flwyddyn.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae ‘na nifer o grwpiau chwaraeon ac athletau da sy’n gwneud gwaith arbennig yn eu cymunedau.
“Mae Cist Gymunedol yno i helpu’r clybiau hynny gael yr adnoddau ychwanegol maent eu hangen.” Dylai’r rhai sydd yn cymryd rhan wneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn colli allan.”
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n wefan.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION