Erthygl wadd: Tîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru
I helpu ein cymunedau lleol aros mewn cysylltiad, ac i wneud yn siŵr fod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o rywbeth gallwch gymryd rhan mewn Gwahanol gyda’n Gilydd!
Mae Tîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal 2 sesiwn Zoom yn Chwefror a Mawrth – mae croeso i ddarparwyr gwasanaeth, aelodau cymunedol a chynrychiolwyr i fynychu.
Ar 25 Chwefror:
• Ymunwch â thrafodaeth am sut y gallwn gefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych i gysylltu â darganfod gwerthoedd cyffredin.
• Gwrandewch ar brofiadau byw o fewn ein cymunedau amrywiol
• Ymunwch â’n gwestai arbennig, y bardd Natasha Borton am weithgareddau creadigol llawn hwyl – ysbrydoliaeth fechan i rannu eich profiad chi?
• Cwrdd â’r gwneuthurwr ffilmiau Rob Corcoran, a darganfod sut y gallwch ychwanegu neges gadarnhaol i ffilm gymunedol ‘Gwahanol gyda’n Gilydd!’
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Ar 4 Mawrth:
• Cadw’r drafodaeth yn fyw! Ymunwch â ni eto wrth i ni ddefnyddio’r syniadau gorau o Sesiwn 1 a dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol: sut y gallwn ni barhau i wneud cysylltiadau amrywiol yn 2021?
• Gwneud cysylltiadau a rhannu syniadau ar gyfer prosiectau cymunedol yn y dyfodol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
• Adborth a chefnogaeth gan Rob a Natasha i orffen, cofnodi a rhannu eich prosiectau creadigol. Ychwanegwch eich llais i Gwahanol gyda’n Gilydd!
Wrth i’n cymunedau barhau i weld pethau’n anodd wrth i ni fyw bywydau ynysig, rŵan yw’r amser i atgoffa ein gilydd ein bod ni dal gyda’n gilydd er ein bod ni ar wahân – ac mae’r ysbryd cymunedol wedi’i gryfhau pan rydym i gyd yn teimlo bod croeso i ni, ein bod wedi ein cynnwys a bod cyfleoedd i ni gymryd rhan.
I ymuno â ni ar Zoom, gofynnwch am ffurflen archebu ar onewrexham@wrexham.gov.uk
Welwn ni chi gyd yn fuan!
CANFOD Y FFEITHIAU