Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn Briffio Covid-19 – mae achosion yn parhau i fod yn uchel yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn Briffio Covid-19 – mae achosion yn parhau i fod yn uchel yn Wrecsam
ArallY cyngor

Nodyn Briffio Covid-19 – mae achosion yn parhau i fod yn uchel yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 16, 2021 2:48 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Covid-19
RHANNU

Mae Wrecsam yn parhau i fod â’r lefelau uchaf o’r coronafeirws yng Nghymru (199 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth (ar sail treigl saith diwrnod).

Cynnwys
  • A ydych hi’n 70 oed neu’n hŷn, neu’n gwarchod eich hunan?
  • Profiad cadarnhaol
  • Mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim.. peidiwch â chael eich twyllo
  • Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi
  • Cynllunio i ailagor ysgolion yn ddiogel
  • Byddwch yn ofalus (er ei bod hi bron yn hanner tymor)
  • Os oes gennych chi symptomau…
  • Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Er bod y ffigurau yn gostwng yn gyffredinol yn y fwrdeistref sirol, maent yn parhau i fod yn uchel ac maent wedi cynyddu mewn rhai ardaloedd yn ddiweddar.

Mae’n rhaid i ni barhau i fod yn ofalus iawn.

Mae’r rhaglen frechu yn datblygu’n gyflym, ac erbyn dydd Llun (15 Chwefror), mae’r bwrdd iechyd lleol yn anelu at fod wedi cynnig apwyntiad i bawb yn y pedwar ‘grŵp blaenoriaeth’ cyntaf.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nad ydym yn gadael neb allan…

A ydych hi’n 70 oed neu’n hŷn, neu’n gwarchod eich hunan?

  • Os ydych chi’n 70 oed neu’n hŷn ac os nad ydych eisoes wedi derbyn apwyntiad brechu, ffoniwch 03000 840004
  • Os ydych chi’n iau na 70 oed ac wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn eich cynghori i warchod eich hunan, fe ddylech chi hefyd ffonio’r rhif hwn i archebu slot.

Profiad cadarnhaol

Ers agor y ganolfan frechu leol yng Nghanolfan Catrin Finch ddiwedd mis Ionawr, mae wedi bod yn rhan allweddol o gyflwyniad y brechlyn yn yr ardal leol.

Mae’r cyngor wedi gweithio’n ddiflino i sefydlu’r ganolfan hon yn Wrecsam, ac mae wedi bod yn hwb pwysig yn y frwydr yn erbyn y feirws.

Mae llawer o bobl wedi rhannu sylwadau cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol am eu profiadau ac mae’r staff iechyd ar y safle’n gwneud gwaith gwych.

Gallwch ddarllen mwy am gyflwyniad y brechlyn ar draws Gogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol,

neu gallwch wylio’r fideo isod sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan Dr Chris Stockport yn gynharach yr wythnos hon.

 

https://youtu.be/vEZKe0VYqX8

Mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim.. peidiwch â chael eich twyllo

Yn anffodus, mae nifer fechan o bobl a fydd o bosibl yn ceisio eich twyllo gyda negeseuon e-bost a galwadau ynghylch brechlynnau ffug.

Cofiwch … ni ofynnir i chi ‘gofrestru’ na thalu i dderbyn y brechlyn na darparu eich manylion banc na chyfrineiriau.

Bydd y GIG neu eich Meddyg Teulu yn cysylltu â chi yn eich tro.

Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi

Mae’r lefelau yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn Wrecsam yn gwella, ond mae’r ffigurau yn parhau i fod yn uchel, ac mae rhai ardaloedd wedi gwaethygu.

Mae nifer yr achosion wedi cynyddu yn yr ardaloedd canlynol:

  • Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd – 354 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 321 ar 5 Chwefror).
  • Penycae a’r Mwynglawdd – 349 (cynnydd sylweddol o 157 ar 5 Chwefror).
  • Rhos a De Johnstown – 256 (o’i gymharu â 199 ar 5 Chwefror).

Dengys hyn, er bod achosion yn gostwng yn gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol, nid yw’r frwydr wedi dod i ben.

Os hoffech chi ragor o fanylion am y ffigurau yn eich ardal chi, ymwelwch â ‘tableau’ data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasgwch ar y tab ‘MSOA’:

  • Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd – 354 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 321 ar 5 Chwefror).
  • Penycae a’r Mwynglawdd – 349 (cynnydd sylweddol o 157 ar 5 Chwefror).
  • Rhos a De Johnstown – 256 (o’i gymharu â 199 ar 5 Chwefror).

Dengys hyn, er bod achosion yn gostwng yn gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol, nid yw’r frwydr wedi dod i ben.

Os hoffech chi ragor o fanylion am y ffigurau yn eich ardal chi, ymwelwch â ‘tableau’ data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasgwch ar y tab ‘MSOA’:

Mae’r feirws yn lledaenu’n bennaf mewn aelwydydd rhwng aelodau o’r teulu, gydag amrywiolyn ‘Kent’ yn cyfrif am bob achos.

Nodyn Briffio Covid-19 – mae achosion yn parhau i fod yn uchel yn Wrecsam

Cynllunio i ailagor ysgolion yn ddiogel

Mae cynlluniau yn mynd rhagddynt wrth i Wrecsam ystyried trefniadau ar gyfer ailagor ysgolion i ddisgyblion y cyfnod sylfaen (plant rhwng 3 a 7 oed).

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y gallai ysgolion ddechrau ailagor i blant iau o ddydd Llun, 22 Chwefror.

Er bod lefelau’r coronafeirws yn gostwng yn Wrecsam, mae’r ffigurau’n parhau i fod yn uchel iawn, felly mae’r cyngor a phenaethiaid yn ystyried cynlluniau yn ofalus, gan barhau i fonitro’r sefyllfa leol.

Yn sgil yr ymagwedd ofalus hon, ni fydd plant yn dychwelyd i ysgolion yn Wrecsam tan ddydd Gwener, 26 Chwefror ar y cynharaf – yn ddibynnol ar lefelau’r coronafeirws yn yr ardal leol ar ôl yr hanner tymor.

Fodd bynnag, os bydd y lefelau’n parhau i fod yn uchel ac os teimlir nad yw’n ddiogel i ailagor ysgolion, ni fydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar 26 Chwefror a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa leol.

Planning underway for cautious return of foundation phase pupils in Wrexham

Byddwch yn ofalus (er ei bod hi bron yn hanner tymor)

Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi a phawb yr ydych yn eu gweld.

Cadwch at y cyfyngiadau presennol yng Nghymru a:

  • Peidiwch â chymysgu gyda phobl o aelwydydd eraill – fodd bynnag, gallwch gyfarfod gydag un unigolyn o aelwyd arall i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored yn unig.
  • Dylech deithio at ddibenion hanfodol yn unig, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.

Os oes gennych chi symptomau…

Os oes gennych chi symptomau…

Os oes gennych chi symptomau o’r coronafeirws, sicrhewch eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.

Efallai mai dyma fydd y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Y diweddaraf ar frechlynnau (gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Lefel Rhybudd 4: cwestiynau cyffredin
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bwletin Twristiaeth Newydd i arddangos busnesau lletygarwch Bwletin Twristiaeth Newydd i arddangos busnesau lletygarwch
Erthygl nesaf Diverse Together Gwahanol gyda’n Gilydd! – Rydan ni dal gyda’n gilydd hyd yn oed pan rydan ni ar wahân

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English