Wrth i ni barhau i foderneiddio ein hadeiladau a’n gweithlu, mae’r Hen Lyfrgell, un o’n hadeiladau yng nghanol y dref, yn cael ei thanddefnyddio ac rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer perchennog newydd i ddatblygu’r adeilad.
Fe’i defnyddir ar hyn o bryd gan adran TGCh y Cyngor, ac mae’r eiddo yn cynnig cyfle unigryw i berchennog newydd roi bywyd newydd i’r eiddo, gan roi sylw dyledus i’w statws rhestredig Gradd 2.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Ar ôl proses dendro gystadleuol, mae Legat Owen, Asiantau Eiddo Masnachol, wedi’u penodi i archwilio defnydd amgen ar gyfer yr adeilad ac asesu lefel y galw masnachol.
Cynhelir ymarfer marchnata rhagarweiniol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 a dylai partïon sydd â diddordeb gysylltu â Legat Owen ar 01244 408 200.
Fe adeiladwyd yr adeilad deniadol yng nghanol y dref yn wreiddiol yn 1907, gydag arian yn cael ei roi gan Andrew Carnegie, dyn busnes a dyngarwr o’r Alban a bu’n llyfrgell boblogaidd nes agoriad yr un newydd yn Llwyn Isaf yn 1971.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI