Rhoddir rhybudd i fodurwyr y bydd ail raglen waith yn cael ei chynnal ar yr A483, o ddydd Sul 6 Hydref i ddydd Mawrth 12 Tachwedd, rhwng ffin ogleddol y sir ger yr Orsedd (cyffordd 7) a’r ffin ddeheuol ger cylchfan y Galedryd. Ariennir y gwaith gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos a bydd yn cynnwys cynnal a chadw’r llain a’r coed wrth ymyl y ffordd, ail-densiynu’r rhwystr a chodi sbwriel, gyda’r lonydd ar gau rhwng 8pm a 6am i leihau unrhyw darfu.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ni fydd llawer o oedi, ond dylai modurwyr ganiatáu mwy o amser ar gyfer teithiau yn ystod yr oriau uchod.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd gwaith cynnal a chadw pellach yn cael ei wneud ar yr A483 ar hyd y sir, yn dilyn sylwadau Cyngor Wrecsam i Lywodraeth Cymru.
“Mae cynllun gwaith wedi’i ddatblygu a fydd yn sicrhau na fydd gormod o oedi, gyda’r lonydd ar gau dros nos.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN