Er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr A5156/A534 Ffordd Gyswllt Llan-y-Pwll, bydd angen cau rhywfaint ar y lonydd o ddydd Llun, 27 Gorffennaf ymlaen.
Bydd y gwaith yn cael ei wasgaru rhwng cyffyrdd cylchfan ar hyd y ffordd yn dechrau ar y ffordd gyswllt rhwng cylchfan JCB a Neuadd Gourton ac yna ar hyd y rhan olaf rhwng cylchfannau Borras Head a Gresffordd.
Yn ystod y gwaith bydd rhannau o’r lonydd ar gau tan ddydd Gwener, 7 Awst.
Rydym yn ymddiheuro am yr oedi a’r amhariad anochel ac rydym yn gofyn i chi fod yn amyneddgar tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eich siwrnai.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]