Rydym wedi bod yn gweithio’n galed ar Ffordd Gyswllt Llan y Pwll yn ddiweddar. Fel rhan o’r cynllun, rydym wedi trwsio arwyddion traffig a ddifrodwyd, trwsio darnau o rwystr taro a ddifrodwyd a gwneud gwaith cynnal cyffredinol trwy dorri glaswellt a chasglu sbwriel.
25 tunnell o sbwriel
Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n galed i wneud y gwaith cynnal a chadw ar y llwybr ond wedi eu synnu gan faint o sbwriel a daflwyd o geir. Rydym wedi cael gwared â mwy na 25 tunnell o sbwriel o’r safle.
Mae bywydau gweithwyr yn cael eu peryglu wrth gasglu sbwriel a gofynnir i yrwyr gadw eu sbwriel gyda nhw yn hytrach na’i adael wrth ymyl y ffordd gan beryglu bywydau’r gweithwyr sy’n gorfod ei gasglu.
“Cael gwared ar eich sbwriel yn briodol”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell Aelod Arweiniol Amgylchedd, “Nid yw’r rhan fwyaf o yrwyr sy’n taflu sbwriel o ffenestri eu ceir yn meddwl am beth maent yn ei wneud neu’r ffaith y bydd yn rhaid i rywun ddod i’w gasglu. Gobeithiaf y bydd trigolion ac ymwelwyr yn gwerthfawrogi’r costau a ysgwyddir gan gynghorau lleol wrth gasglu sbwriel, yn ystod cyfnod o bwysau ariannol mawr. Gofynnwn i aelodau o’r cyhoedd gael gwared â’u sbwriel yn briodol. Hefyd hoffwn ddiolch i’r holl staff am eu gwaith caled ar Ffordd Gyswllt Llan y Pwll dros yr wythnosau diwethaf.”
Mae’r gwaith yn ystod y dydd bellach wedi dod i ben, fodd bynnag bydd gwaith dros nos rhwng cylchfan Borras Head a chylchfan Gresffordd am 4 noson. Bydd gwyriad yn cael ei gynnal yn ystod y gwaith.
Rydym yn ymddiheuro am oedi ac amhariad anochel ac rydym yn gofyn i chi fod yn amyneddgar tra mae’r gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eich siwrnai.
Gallwch ddarllen mwy am y gwaith yma.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN