Rydym ni’n bwriadu ymgymryd â gwaith hanfodol i osod wyneb newydd ar yr A525 Ffordd Rhuthun, Wrecsam, rhwng Lôn y Tyddyn a Ffordd y Bers.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 5 Hydref ac yn cymryd 4 wythnos.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
I ddiogelu pawb, bydd system unffordd ar waith gyda gyrwyr yn teithio i’r A483 o Goedpoeth i’r dref.
Bydd arwyddion y llwybr gwyro ar hyd Ffordd yr Wyddgrug wedi’u gosod ar gyfer y gyrwyr sy’n teithio o’r pen arall.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn waith cynnal a chadw hanfodol, ac rydym ni’n siŵr y bydd gyrwyr yn gwerthfawrogi’r gwelliannau. Yn y cyfamser, ymddiheurwn am darfu ar eich siwrnai ac argymhellwn eich bod chi’n caniatáu mwy o amser i gyrraedd pen eich taith ar amser.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG