Bydd gwaith ar ail-wynebu rhannau o Ffordd Caer yn dechrau ar 12 Awst a dylent fod wedi eu cwblhau erbyn dydd Mawrth 22 Awst.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn cynnwys rheolaeth traffig dwy ffordd ar y cylchfan o Ffordd Powell, gyda Ffordd Caer yn caedig o’i gyffordd gyda Rhodfa Penymaes i cylchfan Ffordd Powell, a’r gyffordd o Bodhyfryd hyd at y gylchfan gyda Ffordd Powell. Bydd y ffordd ar gau rhwng 7.00 pm a 11.00 pm er mwyn osgoi aflonyddwch ar hyd y fynedfa brysur hon i ganol y dref.
Bydd cam dau’r gwaith yn dechrau ddydd Iau 17 Awst ac yn parhau tan 22 Awst. Bydd y ffordd o fynedfa Maes Parcio’r Llyfrgell at gyffordd Ffordd Caer a Ffordd Powell ar gau i’r ddau gyfeiriad. Bydd traffig yn cael ei wyro ar hyd Stryt Caer, Stryd Holt a Ffordd Powell ac fel arall.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd mynediad i eiddo gan gynnwys meysydd parcio canol y dref drwy gydol y gwaith, er efallai bydd ychydig o oedi tra bydd y gwaith yn digwydd.
Bydd gwaith yn cael ei wneud mewn rhannau eraill o ganol y dref yn y misoedd nesaf hefyd gan gynnwys y cylchfan Y Werddon, cylchfan Fairy Road, yr A525 Ffordd Melin y Brenin a’r cylchfan ar Ffordd Caer/Prices Lane.
Pont Ffordd Stansty, Ffordd Sir Amwythig yn Hightown a chylchfan Y Werddon
“Gwella mynediad i ganol y dref”
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae buddsoddiad mawr yn cael ei wneud yn ardaloedd canol y dref dros y misoedd nesaf, gan gychwyn gyda Ffordd Caer. Bydd hyn yn gwella mynediad i ganol y dref ac yn dilyn gwaith a wnaed i wella porth Ffordd Yr Wyddgrug i Wrecsam y llynedd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI