Efallai eich bod yn cofio ein bod wedi ail-agor y Byd Dŵr yn swyddogol nôl yn niwedd 2017 ar ôl gwaith ailwampio gwerth £1.5m.

Un o’r newidiadau na fu modd i ni ei wneud yn ystod y gwaith – rhan o brosiect £2.7m i adnewyddu holl gyfleusterau Freedom Leisure ar draws y fwrdeistref sirol – oedd adnewyddu ystafelloedd newid y dynion ger y gampfa.

Rydym yn falch o allu dweud y bydd rhagor o waith adnewyddu yn yr ystafelloedd newid yn dechrau ddydd Llun 3 Rhagfyr, gyda’r nod o gwblhau’r holl waith cyn diwedd y mis.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Bydd y gwaith yn cynnwys creu ardal agored newydd gyda meinciau; cawodydd unigol; ciwbiclau cawod gyda drysau gwydr a goleuadau LED.

Gofynnir i’r dynion ddefnyddio’r ardal newid ar y llawr cyntaf er mwyn newid a chael cawod tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Fe wyddom mai un o’r prif newidiadau y mae cwsmeriaid wedi bod eu heisiau ers y gwaith adnewyddu ehangach ym Myd Dŵr oedd gwella ystafelloedd newid y dynion ger y gampfa ar y llawr gwaelod, felly rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi’r gwaith yma.

“Rydym yn obeithiol y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau cyn y Flwyddyn Newydd, ac fe hoffem ddiolch i ddefnyddwyr ymlaen llaw am eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y gwaith”.

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I