Efallai eich bod sylwi bod rhywfaint o’r gwaith adeiladu wedi dechrau ar Adeiladau’r Goron ar Stryt Caer yng nghanol tref Wrecsam. Mae’r gwaith yma’n rhan o broses gyffrous newydd i drawsnewid llawr gwaelod yr hen adeilad yn ‘Gyfleuster Iechyd a Lles Cymunedol’ newydd ar gyfer Wrecsam.
Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y gofod yn darparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector a chymunedol integredig. Y nod yw ei gwneud hi’n haws i bobl, teuluoedd a gofalwyr o bob oedran allu cael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth.
Prosiect partner yw cyfleuster Iechyd a Lles Cymunedol Wrecsam rhwng Cyngor Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Bydd yn adeiladu ar, yn hytrach na dyblygu gwasanaethau sydd eisoes ar gael yng nghanol tref Wrecsam ac ardaloedd lleol eraill.
Bydd y gofod yn gweithredu fel lleoliad canolog ar gyfer ystod o gyfleusterau hygyrch, gan alluogi pobl a theuluoedd sydd ag ystod eang o anghenion cefnogi i gymryd rhan gyda gwasanaethau cymunedol yn ogystal â chael mynediad hawdd at wybodaeth a chyngor ataliol.
Nod y cyfleuster yw ffurfio cysylltiadau gydag asiantaethau eraill a llwybrau cefnogi er mwyn darparu amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl, teuluoedd a gofalwyr.
Bydd lloriau uchaf yr adeilad yn lleoliad i staff gofal cymdeithasol sydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau plant ac oedolion, yn ogystal â dod yn lleoliad newydd ar gyfer ein Hadran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Asedau, “Bydd y cyfleuster Iechyd a Lles Cymunedol yn ei gwneud hi’n haws i bobl, teuluoedd a gofalwyr gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth. Mae’r manylion dylunio yn bwysig gan y byddant yn gwella perfformiad ynni yr adeilad, gyda’r ffocws ar ymagwedd ‘adeiladwaith yn gyntaf’ er mwyn gwella effeithlonrwydd thermal amlen yr adeilad. Bydd paneli ffotofoltäig yn cael eu gosod ar y to hefyd er mwyn gostwng allyriadau carbon a gwella allyriadau carbon yr adeilad ymhellach.
“Mae’n brosiect cyffrous a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned ac yn trawsnewid yr hen adeilad mewn i ofod a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw a gweithio yn Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Dyma brosiect cyffrous iawn a fydd o fudd i bawb yn Wrecsam. Bydd yn darparu mynediad gwell at weithwyr proffesiynol i aelodau’r cyhoedd ac ymagwedd fwy hyblyg at ddarpariaeth. Bydd plant a theuluoedd hefyd yn elwa o fynediad gwell at gyfleusterau gwell yng nghanol y dref, gan hyrwyddo cydraddoldeb drwy sicrhau y gall pobl sydd ag anghenion penodol gael gafael ar yr un cyfleusterau yng nghanol y dref â theuluoedd eraill.”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Bydd cyfleuster Iechyd a Lles Cymunedol Wrecsam yn ychwanegiad gwych i ganol tref Wrecsam, bydd yn darparu cefnogaeth i bobl sydd angen cyngor neu wybodaeth am ystod eang o bynciau. Fe fydd hi’n haws i bobl gael gafael ar wybodaeth a chyngor mewn un lle yn ogystal â darparu safle lle gall sefydliadau partner weithio’n ddi-dor gyda’u gilydd i roi’r gofal a gwybodaeth gorau posib’ i unrhyw un sydd ei angen.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Dyma gyfle gwych i Wrecsam gan y bydd Gwasanaethau Plant ac Addysg wedi’u cydleoli yn yr un adeilad, ac yn darparu gwell mynediad i blant a theuluoedd at y gwasanaethau cefnogaeth rydym ni’n eu darparu. Fel plentyn y chwedegau, dwi’n falch y bydd Adeiladau’r Goron yn cael eu hadnewyddu gan fod yr adeilad yn enghraifft cynnil o adeiladwaith y 1960au.”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaeth Ieuenctid a Gwrthdlodi, “Dyma brosiect cydweithio gwych a bydd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn estyn allan at bawb o bob oedran yn Wrecsam. Fe fydd y gwasanaethau hyn yn fwy hygyrch yn sgil yr adeilad. Mae’n gyffrous iawn ac alla’ i ddim aros i weld y gwasanaethau yn gwella bywydau pobl yn yr ardal.”
Dywedodd Karen Evans – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Bydd datblygu cyfleusterau Iechyd a Lles Cymunedol yn Wrecsam yn rhoi cyfleoedd newydd i bobl gael gafael ar wybodaeth, cyngor a gwasanaethau iechyd a lles mewn ffordd gyfannol. Mae’n bleser gennym fod yn cydweithio i ddylunio’r amgylchedd a’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn y cyfleuster ac rydym yn edrych ymlaen at ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yma yn y dyfodol agos.
Mae John Gallanders – Prif Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn falch iawn bod y trydydd sector wedi cael cyfle i fod yn rhan o ddatblygu’r cyfleuster Iechyd a Lles Cymunedol. Bydd cyfranogiad y trydydd sector yn sicrhau bod cefnogaeth gyfannol yn gysylltiedig â’r Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd i bobl sydd angen ystod eang o gymorth. Gyda chymaint o bethau’n effeithio ar fywydau pob, bydd cael un pwynt cyswllt yn osgoi gorfod mynd a dod. Dros y misoedd nesaf, bydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn cysylltu â sefydliadau trydydd sector allai fod yn rhan o ddarpariaeth y gwasanaeth.’
Bydd y manylion dylunio yn gwella perfformiad ynni’r adeilad yn sylweddol, ac roedd hyn yn gymhelliant mawr o ddechrau’r cynllun. Gan weithio’n agos gyda’r contractwr a’u dylunwyr, bu’r ffocws ar ddull “adeiladwaith yn gyntaf” er mwyn gwella effeithlonrwydd thermal cyffredinol amlen yr adeilad er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Bydd y to yn cael ei ddefnyddio’n llawn er mwyn gosod nifer o baneli ffotofoltäig a fydd yn gwella ôl troed carbon yr adeilad trwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle.
Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, bydd yr adeilad yn cyrraedd gradd ‘B’ a fydd yn arddangos gostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon a byddai’r perfformiad yn gymaradwy â nifer o brosiectau adeiladu newydd.
Disgwylir i’r gwaith gymryd hyd at 18 mis i’w gwblhau a’r gobaith yw y bydd cyfleuster Iechyd a Lles Cymunedol Wrecsam yn agor i’r cyhoedd yn fuan yn 2022.