Wrth i’r gwelliannau barhau yng nghanol y dref, mae angen cau’r ardal i gerbydau o 10 Medi.
Caniateir cyflenwadau i eiddo masnachol trwy drefniannau rhwng y siopau a’r contractwyr.
Caiff mynediad i gerddwyr i’r siopau ei gynnal ar bob amser.
Bydd ymwelwyr i’r ardal wedi gweld llawer o waith yn mynd rhagddo i wella canol y dref, a dim ond y cam cyntaf o fuddsoddiad gwerth £420,000 ydi’r gwelliannau yma i wella’r palmentydd a chelfi stryd yng nghanol y dref.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yn annatod bydd gwaith o’r natur yma’n achosi aflonyddwch ac anghyfleustra ac rwy’n ymddiheuro i unrhyw un a fydd yn cael eu heffeithio gan gau’r ffordd. Byddwn yn cynnal mynediad i siopau trwy gydol y gwaith, ac i ymwelwyr, mae hi’n ‘fusnes fel arfer’ wrth i ni edrych ymlaen at weld ardal ddymunol sydd yn fwy lliwgar pan fydd y gwaith wedi cael ei gwblhau yn yr Hydref”.n.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…