Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – peidiwch â cheisio adnewyddu ar gyfer 2023/24 eto

green bin

Hoffem roi gwybod i’n preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd y codir tâl amdano, y bydd y system adnewyddu ar gyfer y flwyddyn wasanaeth nesaf (2023/24) yn agor ym mis Gorffennaf, felly nid oes angen iddynt wneud dim eto.

Y ffi fydd £25 y flwyddyn, fesul bin o hyd

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Bydd y system adnewyddu ar gyfer y flwyddyn wasanaeth sydd i ddod yn agor Ddydd Llun, 3 Gorffennaf 2023. Peidiwch â cheisio adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd cyn y dyddiad hwn. Ni fydd gwasanaeth 2023/24 yn dechrau tan ddydd Llun, 4 Medi, 2023, a bydd gan breswylwyr sawl wythnos i adnewyddu cyn eu casgliad cyntaf.

“Rydym yn falch ein bod wedi rhewi cost y gwasanaeth unwaith eto ar £25 y flwyddyn, fesul bin gwyrdd, sy’n llai na’r ffi mewn sawl awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr.”

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Diffodd y system taliadau ar-lein yn fuan

Mae preswylwyr wedi cysylltu â ni ar sawl achlysur yn ddiweddar i ddweud eu bod wedi talu am ein blwyddyn wasanaeth bresennol (2022/23) mewn camgymeriad, heb sylwi mai am ychydig fisoedd yn unig y bydd y gwasanaeth hwnnw’n rhedeg eto.

Gall preswylwyr barhau i ymuno â’n gwasanaeth 2022/23 sy’n costio £25 fesul bin, ond dylent fod yn ymwybodol ei fod yn rhedeg tan 1 Medi, 2023, felly dim ond tua 3.5 mis o gasgliadau a geir os byddant yn ymuno nawr.

Peidiwch â chamgymryd y byddwch yn derbyn gwasanaeth 12 mis llawn wrth ymuno nawr. Bydd angen i gofrestrwyr newydd, sydd dymuno talu am flwyddyn lawn, aros tan fis Gorffennaf ar gyfer ymuno â’r gwasanaeth 2023/24 sydd i ddod, er mwyn derbyn eu casgliad cyntaf ym mis Medi.

I osgoi dryswch, byddwn yn diffodd ein system taliadau ar-lein ar gyfer 2022/23 ddydd Gwener, 26 Mai 2023. Bydd angen i unrhyw un sydd eisiau ymuno ar ôl y dyddiad hwn ffonio Gwasanaethau Stryd ar 01978 298989 i wneud taliad gyda cherdyn.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/Pothole_report”] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]