Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol yn cyrraedd 10,000 o aelodau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol yn cyrraedd 10,000 o aelodau
Arall

Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol yn cyrraedd 10,000 o aelodau

Diweddarwyd diwethaf: Awst 5, 2022 9:23 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Community Alert
RHANNU

Erthyl Gwadd – Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru

Mae mwy ‘na 10,000 o bobl wedi tanysgrifio i system negeseuo cymunedol sydd am ddim a lansiwyd flwyddyn yn ôl.

Mae’r system Rhybuddion Cymunedol Gogledd Cymru, a sefydlwyd fel y system gyntaf yng Nghymru diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, yn golygu y gall pobl dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau a chyngor atal trosedd sy’n berthnasol i’w hardal leol.

Mae’n sydyn ac yn syml i gofrestru ac mae’n wasanaeth negeseuo sy’n rhad ac am ddim i bobl sy’n byw a gweithio yng Ngogledd Cymru er mwyn eu diweddaru am newyddion, rhybuddion, apeliadau, digwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau plismona cyffredinol o’u timau plismona lleol.

Dywedodd yr Arolygydd Wes Williams o Heddlu Gogledd Cymru: “Er mwyn nodi’r garreg filltir hon, hoffem ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi tanysgrifio am eu cefnogaeth barhaol, oherwydd hebddynt, ni fuasem yn gallu darparu gwasanaeth effeithiol i’n cymunedau.

“Mae cadw pawb yn ddiogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Rydym eisiau parhau i weithio’n ddiflino gyda’n partneriaid er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n bwysig sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein cymunedau.

“Mae pob un aelod newydd yn rhoi llais, llygaid a chlustiau ychwanegol o fewn ein cymunedau, er mwyn i ni ymgysylltu a rhannu rhybuddion lleol er mwyn diweddaru pawb hefo’r hyn sy’n digwydd.

“Mae diweddaru cymunedau am batrymau, pryderon a straeon newyddion da yn cynorthwyo tuag at atal pethau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Yr hyn sy’n gwneud y system mor ddefnyddiol yw bod unigolion yn gallu dewis pa wybodaeth yr hoffent ei dderbyn gennym ni a sut y byddent yn hoffi ei dderbyn. Boed hynny ar e-bost, neges destun neu neges llais – nid oes angen iddynt gael cysylltiad â’r rhyngrwyd – eu dewis nhw ydyw.

“Nid sianel ddarlledu ydy Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn unig, lle mai ond ni sy’n dweud wrthych chi. Mae’n system negeseuon dwyffordd fel bod gennym ffordd ychwanegol o wrando ar yr hyn sydd gan ein cymunedau i’w ddweud.”

Dewch i wybod mwy am Rybudd Cymunedol Gogledd Cymru a chofrestrwch drwy fynd ar y wefan  https://www.rhybuddcymunedolgogleddcymru.co.uk/

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Dogs on Lead Berchnogion Cŵn – darllenwch i gael gwybod lle y gellwch fynd gyda’ch ci, a lle na ellwch fynd
Erthygl nesaf Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllun y Cyngor - Lle ydym ni arni bellach? Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllun y Cyngor – Lle ydym ni arni bellach?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English