Yn ddiweddar lansiodd y Ganolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch (NCSC) ei ymgyrch Cyber Aware er mwyn mynd i’r afael â throseddwyr ar-lein.
Rhan o’r ymgyrch yw creu Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl anfon negeseuon e-bost amheus ymlaen at yr NCSC – gan gynnwys y negeseuon hynny sy’n honni eu bod yn cynnig gwasanaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae’r NCSC yn aelod o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth Y DU (GCHQ), ac mae wedi datgelu ei fod eisoes wedi rhoi stop ar 2,000 o gynlluniau twyll – gan gynnwys 471 o siopau ffug ar-lein – a oedd yn ceisio twyllo pobl a oedd yn chwilio am wasanaethau yn gysylltiedig â’r coronafeirws.
Dywedodd Ciaran Martin, Prif Swyddog Gweithredol NCSC: “Wrth i bobl wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg, mae llawer o wahanol ffyrdd y gall ymosodwyr ein niweidio i gyd.
“Dyna pam yr ydym wedi creu gwasanaeth adrodd cenedlaethol newydd ar gyfer negeseuon e-bost amheus – ac os ydynt yn cynnwys dolenni cyswllt sy’n arwain at gynnwys maleisus, byddwn yn eu tynnu i lawr neu yn eu hatal. Trwy anfon negeseuon ymlaen atom, byddwch yn amddiffyn y DU rhag cynlluniau e-bost twyllodrus a throseddau ar y rhyngrwyd.”
Dywedodd James Brokenshire, Gweinidog dros Ddiogelwch: “Rwy’n annog pawb i ddilyn cyngor ymgyrch Cyber Aware a defnyddio’r Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus. Maent yn darparu dulliau newydd a phwysig i’n galluogi i amddiffyn ein hunain yn ogystal â’n teuluoedd a’n busnesau.”
Ydych chi wedi derbyn e-bost amheus?
Os ydych wedi derbyn e-bost yr ydych yn teimlo’n ansicr yn ei gylch, gallwch ei anfon ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus trwy’r cyfeiriad e-bost report@phishing.gov.uk
Bydd yr NCSC wedyn yn dadansoddi’r e-bost amheus ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges. Er nad yw’r NCSC yn gallu’ch hysbysu o ganlyniad ei adolygiad, bydd yn cadarnhau ei fod wedi cymryd camau gweithredu mewn cysylltiad â phob neges a dderbynnir.
Adrodd am droseddau ar y rhyngrwyd
Ni ddylech gysylltu â’r NCSC trwy ddefnyddio’r cyfleuster hwn i roi gwybod am droseddau ar y rhyngrwyd. Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef achos o dwyll neu drosedd ar y rhyngrwyd, dylech roi gwybod i Action Fraud trwy eu gwefan neu trwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a throsedd ar y rhyngrwyd.
Cadwch yn saff.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19