Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio am wefannau ffug sy’n copïo rhai gwreiddiol ac yn codi ffi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio am wefannau ffug sy’n copïo rhai gwreiddiol ac yn codi ffi
Arall

Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio am wefannau ffug sy’n copïo rhai gwreiddiol ac yn codi ffi

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 22, 2021 1:15 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio am wefannau ffug sy'n copïo rhai gwreiddiol ac yn codi ffi
RHANNU

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio’r cyhoedd i fod yn ofalus wrth wneud cais am wasanaethau ar-lein rhag iddyn nhw gael eu camarwain gan wefannau ffug sy’n edrych fel y gwefannau gwreiddiol ond sy’n codi costau ychwanegol di-angen.

Cynnwys
  • “Efallai na fyddwch hyd yn oed wedi sylweddoli eich bod wedi cael eich camarwain”
      • Rhywfaint o gyngor

Enghreifftiau o hyn yw wrth wneud cais am neu wrth adnewyddu trwyddedau gyrru, pasbortau, Cardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC), Trwyddedau Mynediad UDA, profion gyrru a budd-daliadau plant.

Er bod rhai gwefannau swyddogol yn codi ffi am wneud cais, mae nifer o wefannau trydydd parti yn bodoli bellach sy’n codi ffi ychwanegol i dderbyn y cais, ac yna ei basio ymlaen i’r awdurdod dosbarthu swyddogol.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

“Efallai na fyddwch hyd yn oed wedi sylweddoli eich bod wedi cael eich camarwain”

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Yn aml mae’r gwefannau hyn yn edrych yn debyg iawn i’r gwefannau swyddogol, felly mae’n bosibl na fyddwch wedi sylwi eich bod yn cael eich camarwain. Fel arfer mae ganddyn nhw ymwadiad a dolen gyswllt i’r safle swyddogol, ond gall hwnnw fod mewn print mân sy’n anodd i’w weld. Yn aml mae aelodau o’r cyhoedd yn canfod eu bod wedi defnyddio un o’r gwefannau ffug hyn yn rhy hwyr ar ôl iddyn nhw dalu’r ffi ychwanegol. Cymerwch eich amser i wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r wefan swyddogol i osgoi talu unrhyw gostau di-angen.”

Rhywfaint o gyngor

Y cyngor gan Safonau Masnach yw bod yn eithriadol o ofalus wrth wneud chwiliad cyffredinol mewn chwilotwr gan fod hynny’n llawer mwy tebygol o ddangos gwefannau trydydd parti ar y rhestr o ganlyniadau.

Gwiriwch beth yw’r cyfeiriad gwe swyddogol ar gyfer y gwasanaeth yr ydych yn chwilio amdano, a theipiwch hwnnw yn llawn, gan dreulio amser yn gwirio’r wefan yr ydych yn ei hagor i wneud yn siŵr mai honno yw’r wefan swyddogol a bod y ffi yn un yr oeddech yn ei disgwyl.

Mae cyngor ar gael i ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae llai na 10 diwrnod ar ôl i wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Mae llai na 10 diwrnod ar ôl i wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Erthygl nesaf Wrecsam Cyffredinol Wrexham General Cais am gyllid i wella lein Wrecsam-Bidston

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
The Longest Yarn 2
ArallDigwyddiadau

Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English