Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gweddu ei gilydd i’r dim: mwy o wybodaeth am ofalwyr gwasanaeth Rhannu Bywydau PSS…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gweddu ei gilydd i’r dim: mwy o wybodaeth am ofalwyr gwasanaeth Rhannu Bywydau PSS…
Pobl a lleY cyngor

Gweddu ei gilydd i’r dim: mwy o wybodaeth am ofalwyr gwasanaeth Rhannu Bywydau PSS…

Diweddarwyd diwethaf: 2019/04/26 at 9:55 AM
Rhannu
Darllen 7 funud
Gweddu ei gilydd i’r dim: mwy o wybodaeth am ofalwyr gwasanaeth Rhannu Bywydau PSS...
RHANNU

Mae gofalwyr Rhannu Bywydau yn bobl gyffredin o bob lliw a llun ond, yn debyg i chi, maen nhw i gyd yn gofalu am bobl eraill – ac maen nhw’n newid bywydau pobl yng Nghymru pob dydd.

Cynnwys
Pwy sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Rhannu Bywydau?Paru bywydau Beth sydd arnoch chi angen ei wneud i ddod yn ofalwr Rhannu Bywydau?Beth yw’r manteision?Ychydig o wybodaeth am PSSCysylltwch â ni!01745 828000 Sharon.Dickinson@pss.org.uk

Mae Rhannu Bywydau yn ffurf ar ofal a ddyfeisiwyd gan elusen gofal cymdeithasol PSS, lle mae pobl sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol gyda phethau pob dydd – fel nôl neges, coginio neu smwddio – yn mynd i fyw neu ymweld â gofalwr Rhannu Bywydau, sydd wedi ei recriwtio yn arbennig. Yn eu cartrefi, rôl y gofalwyr yw helpu’r bobl maen nhw’n eu cefnogi i deimlo’n fwy annibynnol, i fagu hyder a byw eu bywydau i’r eithaf, gan roi pa faint bynnag o gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Pwy sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Rhannu Bywydau?

Mae’r Gwasanaeth Rhannu Bywydau yn darparu cefnogaeth i drigolion gogledd Cymru sy’n 18 oed neu hŷn sydd, ar ddechrau defnyddio’r gwasanaeth, yn methu cefnogi eu hunain yn llwyr ar eu pen eu hunain. Gall fod yn rhywun sy’n dioddef o broblem iechyd meddwl fel iselder. Gall fod yn rhywun deunaw oed sy’n gadael y system gofal plant; rhywun gydag anabledd dysgu neu gorfforol; neu’n fam newydd sydd angen ychydig o gymorth yn ystod y dyddiau cyntaf. Y pwynt yw, gall Rhannu Bywydau weithio i unrhyw un sydd angen ychydig o gymorth.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Paru bywydau

Pan fyddwch chi’n dod yn ofalwr Rhannu Bywydau, bydd y person rydych chi’n gofalu amdano yn dod i fyw efo chi yn eich cartref, ac yn dod yn rhan estynedig o’ch teulu neu’n ffrind agos. I wneud yn siŵr eich bod chi’n cyd-dynnu, rydym ni’n darparu gwasanaeth paru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a’r person rydych chi’n gofalu amdano amdan eich gilydd a byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich bywydau yn cyd-fynd. Y peth gorau am hyn oll yw cefnogi rhywun sydd, gobeithio, yn mwynhau’r un pethau â chi.

Beth sydd arnoch chi angen ei wneud i ddod yn ofalwr Rhannu Bywydau?

I ddod yn ofalwr Rhannu Bywydau PSS, does arnoch chi ddim angen profiad blaenorol o ofalu; gallwn eich hyfforddi i safon uchel iawn a darparu cymorth i chi ar bob cam o’r ffordd (bydd gennych chi dîm cefnogi penodol fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn gwneud yn siŵr bod bob dim yn iawn). Mae’n ymwneud â chi fel person, yn ogystal â’r gefnogaeth y gallwch chi ei darparu. I gychwyn arni, y cwbl sydd arnoch chi ei angen yw calon fawr, meddwl agored, penderfyniad, natur ddibynadwy, digonedd o broffesiynoldeb a, heb anghofio, ystafell wely sbâr.

Meddai Becky Bloor-Steen, Pennaeth Gwasanaeth Rhannu Bywydau PSS yng Nghymru: “Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at lansio’r Gwasanaeth Rhannu Bywydau yn Wrecsam. Pob dydd rydym ni’n clywed nifer o straeon gwych am y Gwasanaeth Rhannu Bywydau ac mae’n hawdd gweld sut mae’r gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth. Yn wir, mae o bellach yn un o’r ffurfiau mwyaf ar ofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, a gafodd ei sefydlu gan PSS nôl yn 1978. Mae hi wir yn swydd wych i’w chael – rydych chi’n gallu gweithio i chi’ch hun, o gartref, ac rydych chi’n gallu gwneud rhywbeth gwerth chweil. Yma yn PSS rydym ni’n cefnogi gofalwyr ar bob cam o’r ffordd – rydym ni’n eu hyfforddi fel eu bod yn gallu darparu’r safon gorau posibl o gefnogaeth, ac mae’r tîm ymroddgar yma yng Nghymru yn cadw mewn cysylltiad â nhw’n rheolaidd i weld sut mae pethau. Byddwch yn dod yn rhan o deulu PSS – a byddwn yn eich cefnogi ar hyd y daith.”

Beth yw’r manteision?

Ni fydd yr un diwrnod gwaith yr un fath – nid swydd naw tan bump gyffredin yw hon. Yn ogystal, byddwch yn newid bywyd rhywun er gwell!

Dyma ychydig o resymau eraill pam bod dod yn ofalwr Rhannu Bywydau yn beth mor wych:

  • Gallu gweithio gartref – neu yn y parc, y caffi, y pwll nofio neu’r ganolfan fingo
  • Oriau gweithio hyblyg
  • Ennill bywoliaeth drwy wneud rhywbeth gwerth chweil i rywun arall
  • Dysgu pethau newydd amdanoch chi’ch hun
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Estyn eich teulu
  • Atal rhywun rhag teimlo’n unig

Ychydig o wybodaeth am PSS

Mae PSS yn fenter gymdeithasol sy’n helpu pobl wneud y gorau o’u bywydau. Wedi ei sefydlu yn 1919 gan Eleanor Rathbone, mae’r fenter yn darparu llawer o wasanaethau gwahanol i helpu pobl – o wasanaethau iechyd meddwl i wasanaethau cymdeithasol.  O’u prif swyddfa yn Lerpwl, bu iddynt sefydlu’r gwasanaeth rhannu bywydau yn y 1970au, ac maen nhw wedi bod yn ei gynnal ers hynny. Rôl PSS yw recriwtio, hyfforddi a chefnogi pobl gyffredin, wych, fel chi sydd â natur ofalgar. Mae gan PSS dîm ardderchog yng Nghonwy sy’n edrych ar ôl y gwasanaeth Rhannu Bywydau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yma yn Wrecsam.

Cysylltwch â ni!

Felly dyna ni! Os hoffech chi wneud rhywbeth gwerth chweil gyda’ch bywyd, gwnewch gais i fod yn ofalwr Rhannu Bywydau!

01745 828000
Sharon.Dickinson@pss.org.uk

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Un o Brif Awduron Rhyngwladol yn Ymweld â Wrecsam Un o Brif Awduron Rhyngwladol yn Ymweld â Wrecsam
Erthygl nesaf Cyllid ar gyfer prosiectau cyfeillgar i ddementia yn Wrecsam Cyllid ar gyfer prosiectau cyfeillgar i ddementia yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
DigwyddiadauPobl a lle

Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol

Ionawr 20, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English