Mae’r blog hwn yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu postio trwy gydol Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed er mwyn atal troseddu ac aildroseddu.
Mae’n dîm asiantaeth o staff proffesiynol sy’n gweithio o fewn y system Cyfiawnder Ieuenctid, ac yn derbyn cyllid gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phartneriaethau Strategol lleol.
Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r Llysoedd Ieuenctid ac yn gweithredu ystod o orchmynion statudol y mae’r Llys yn eu gosod. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc sy’n cael eu hanfon i’r ddalfa a’u hailsefydlu yn ôl yn y gymuned ar ôl eu rhyddhau.
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu proses Gwarediad Allan-O’r Llys, a elwir yn ‘Bureau’. Rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i asesu’r person ifanc a’u hymddygiad troseddol ac ymgysylltu gyda’u dioddefwyr pan fo hynny’n briodol, gyda bwriad i ddod o hyd i ddatrysiad adferol sy’n arwain at beidio ag anfon y person ifanc i’r llys. Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu ystod eang o ymyraethau gyda’r person ifanc, yn cynnwys cyngor a chyfarwyddyd a gynigir i rieni / gofalwyr i atal troseddu pellach.
Mae nifer gynyddol o wirfoddolwyr, sy’n cynnig cefnogaeth i’r tîm drwy ymgymryd ag amrywiaeth o rolau sy’n cynnwys Panel y ‘Bureau’, Oedolion Priodol, ac Aelodau o’r Panel Cyfeirio. Anogir unigolion o bob oedran a chefndir i gymryd rhan.
Ffocws mawr y gwaith yw galluogi pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad a’u gweithredoedd, a deall y niwed y gall eu troseddu ei gael ar eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda dioddefwyr ac yn annog pobl ifanc i gyflawni gweithgareddau sydd yn cyweirio’r niwed i unigolion ac i’r gymuned ehangach.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
youthjusticeservice@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN