Rydym ni’n ymuno â Heddlu Gogledd Cymru er mwyn atgoffa preswylwyr y gellir defnyddio rhai gwestai, tai llety a mathau eraill posibl o llety gwyliau yn Wrecsam fel llety ar gyfer gweithwyr allweddol neu bobl ddiamddiffyn yn ystod yr achosion presennol o Coronafeirws.
Dylai unrhyw un sy’n meddwl fod darparwr llety gwyliau yn cynnig llety i unrhyw un heblaw gweithiwr allweddol gysylltu â’r Cyngor drwy e-bostio contact-us@wrexham.gov.uk.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Dylai unrhyw ddarparwr llety yn Wrecsam sydd eisiau cynnig llety i weithwyr allweddol gael caniatâd gan y Cyngor drwy e-bostio contact-us@wrexhamgov.uk. Dylai unrhyw fusnes sydd eisoes yn darparu llety i weithwyr allweddol roi gwybod i’r Cyngor cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost.
Mae’r Rheolau’n glir, dylai pob llety gwyliau, yn cynnwys gwersylloedd a pharciau carafán fod ar gau ers 26 Mawrth. Mae’n rhaid iddynt aros ar gau nes rhoddir gwybod yn wahanol, oni bai eu bod wedi’u heithrio’n benodol neu os y cânt ganiatâd gan Lywodraeth Cymru neu’r Cyngor.
Ni ddylai unrhyw lety gwyliau gael ei ddarparu i ymwelwyr o gwbl yn ystod y cyfnod yma o argyfwng. Bydd unrhyw berson neu fusnes sydd ddim yn cydymffurfio yn cyflawni trosedd ac fe allent gael Rhybudd Cosb Benodedig, Rhybudd Gwahardd neu eu herlyn, ac nid oes terfyn ar y ddirwy.
Serch hynny, fe all busnesau hysbysebu eu llety gwyliau i’w harchebu yn y dyfodol ar ôl i’r cyfyngiadau presennol gael eu llacio, ond mae’n rhaid iddynt barhau ar gau nes bod y Llywodraeth yn dweud y gellir eu hail-agor.
Gall unrhyw un sy’n poeni ynghylch sut mae llety gwyliau yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gysylltu â’r Cyngor gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Dywedodd Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i atal lledaeniad Coronafeirws a thrwy ddefnyddio llety gwyliau ar gyfer gweithwyr allweddol, rydym ni’n sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn aros yn ddiogel tra’u bod yn parhau â’u gwaith pwysig.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Fe hoffwn ddiolch i bawb yn ystod y cyfnod anodd yma am gefnogi gweithwyr allweddol drwy aros adref ac achub bywydau ac rwy’n annog pawb i barhau i wneud hynny. Dyma’r unig ffordd y byddwn ni’n dechrau gweld gwelliant er mwyn gallu dechrau llacio’r cyfyngiadau presennol yn araf ac yn ofalus.
Os ydych chi’n poeni fod llety’n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall heblaw gweithwyr allweddol neu bobl ddiamddiffyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r e-bost uchod”.
Dywedodd Rhingyll Beth Jones, o Adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym ni’n deall fod pobl yn poeni am y sefyllfa bresennol, ac o ganlyniad rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau fod gan y cyhoedd ffordd hawdd o adrodd. Trwy adrodd y pryderon hyn gyda’r Cyngor yn uniongyrchol, bydd yr awdurdod cywir yn delio â nhw’n gyflym a bydd yn lleihau’r galw ar ystafell reoli’r Heddlu ar gyfer materion nad ydynt yn rai plismona. Fe hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod digyffelyb yma”.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19