Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gweler pŵer ffotograffiaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gweler pŵer ffotograffiaeth
Pobl a lle

Gweler pŵer ffotograffiaeth

Diweddarwyd diwethaf: 2018/10/31 at 6:40 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Gweler pŵer ffotograffiaeth
In an attempt to impose the American value system on the Vietnamese, the Marines concluded operations called, in Orwellian Newspeak, "county fairs." Villagers were taught how to wash their children, made to watch Disney films on hygiene, had their teeth pulled, were given real toilets with seats, and were introduced to filter tips.
RHANNU

Mae gwaith un o ffotograffwyr mwyaf enwog Gogledd Cymru i’w weld mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Wrecsam.

Cynnwys
O Rhyl I SaigonEicon ffotograffiaeth Gymreig

Roedd Phillip Jones Griffiths yn un o’r ffotograffwyr mwyaf dylanwadol o ddiwedd yr 20fed ganrif. Ganwyd a chodi yn Rhuddlan, Gogledd Cymru. Roedd Griffiths yn heddychwr gydol oes a cheisiodd ddatgelu effaith rhyfel ar ymladdwyr a sifiliaid trwy ei waith.

Mae’r arddangosfa sydd i ddod, ganrif o’r ‘rhyfel i orffen pob rhyfel’, yn canolbwyntio ar ei luniau o ddau wrthdaro estynedig: Rhyfel Fietnam yn ne-ddwyrain Asia a’r trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

O Rhyl I Saigon

Dechreuodd yrfa hir Phillip Jones Griffiths mewn ffotograffiaeth ar arfordir Gogledd Cymru, lle daeth yn aelod o Glwb Camera’r Rhyl tra’n dal i fod yn ysgol, gan gymryd lluniau priodasau a gweithio yng ngwersyll gwyliau Golden Sands.

Ar ôl gadael yr ysgol daeth Phillip yn fferyllydd prentis yn Boots yn Y Rhyl lle roedd yn gallu benthyg camerâu ar gyfer y penwythnos. Dyma pan fe ddysgodd sut i gymryd lluniau.

Dywedodd Phillip unwaith: “Cefais yr holl bethau tirlun hardd allan o’r ffordd yng Ngogledd Cymru ac roeddwn yn barod am weddill y byd.”

Ar ôl astudio fferyllfa ym Mhrifysgol Lerpwl, symudodd Phillip i Lundain lle bu’n gweithio nosweithiau a gwneud ffotograffiaeth ar ei liwt ei hun ar gyfer y Sunday Times a’r Guardian, cyn ymuno â staff The Observer ym 1961.

Dilynodd aseiniadau yn Ewrop, Affrica a Gogledd America. Yna ym 1966 fe gyrhaeddodd Phillip yn Fietnam ac fe ddatblygodd barch yn gyflym i’r bobl lleol.

Wedi’i ysbrydoli gan ei gredoau heddychog, credodd Griffiths mai ei rôl fel ffotograffydd oedd cwestiynu moesoldeb y Rhyfel.

Yn 1971, cyhoeddodd Griffiths Vietnam Inc, llyfr a ddaeth yn fuan yn glasur ffotograffiaethyddiaeth.

Ym 1972 a 1973 teithiodd i Ogledd Iwerddon ar uchder y Trafferthion. Mae ei luniau o’r cyfnod hwn yn dangos sut roedd rhyfel trefol yn gymysg â bywyd bob dydd.

Bu farw Griffiths yn 2008. Dymunai ei gasgliad gael ei gadw yn nhir ei enedigaeth a sefydlu Sefydliad Phillip Jones Griffiths ar gyfer Astudio Rhyfel.

Eicon ffotograffiaeth Gymreig

Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, y Cyng. Hugh Jones: “Mae Phillip Jones Griffiths yn un o’r ffigurau mwyaf dyfeisgar a dylanwadol ym myd ffotograffiaeth. Mae ei ddelweddau o ryfel a gwrthdaro a’i effaith ar bobl gyffredin wedi gadael etifeddiaeth amhrisiadwy ac rwyf wrth fy modd ein bod ni’n gallu i ddangos rhywfaint o hyn yn Wrecsam.”

“Mae’r arddangosfa’n cynnwys rhai delweddau hynod bwerus ac ysgogol sy’n wirioneddol angen eu gweld yn agos i gael effaith lawn. Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn cymryd y cyfle i ddod i weld gwaith yr eicon ffotograffiaeth Gymreig hon. ”

  • Mae Rhyfel a Heddwch: Phillip Jones a Pŵer ffotograffiaeth yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Wrecsam o ddydd Sadwrn 10 Tachwedd – Sadwrn Mawrth 2.
  • Mae’r arddangosfa wedi’i seilio ar Phillip Jones Griffiths: Ffocws ar Ryfel a Heddwch Cymru, yr arddangosfa wreiddiol a baratowyd gan Mari Elin Jones a Jamie Thomas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, mewn cydweithrediad â Sefydliad Phillip Jones Griffiths.
  • Diolch arbennig i’r curaduron gwadd: Craig Colville a David Heke.

Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Amgueddfa a Threftadaeth Wrecsam ewch i’r wefan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ystadau’n troi’n wyrdd gyda chystadleuaeth gerddi Ystadau’n troi’n wyrdd gyda chystadleuaeth gerddi
Erthygl nesaf Wrexham Council Community Support Work Eisiau swydd hyblyg lle gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor Chwefror 11, 2026
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 10, 2026
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 6, 2026
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Chwefror 5, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Pobl a lleY cyngor

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…

Chwefror 11, 2026
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas

Chwefror 10, 2026
EV charging
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam

Chwefror 6, 2026
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
DigwyddiadauPobl a lleYn cael sylw arbennig

WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029

Chwefror 5, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English