Rhoesom wybod fis Chwefror y llynedd ein bod wedi dod o hyd i dros £420,000 o gyllid i’w wario ar Stryd y Frenhines a Stryd yr Hôb i wella’r ardaloedd i ymwelwyr a siopwyr.
Rŵan, mae’n bleser gennym roi gwybod i chi y bydd gwaith yn dechrau ar 23 Gorffennaf i amnewid yr wyneb palmant bloc – sydd bellach yn 30 oed – gyda thywodfaen, carreg borffyri (debyg i gwarts), a gwenithfaen a fydd yn rhoi edrychiad mwy modern i’n prif stryd siopa.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
“Plannu, palmentydd, tirweddu, seddau a dofrefn stryd”
Bydd Dawnus Construction Holdings Ltd yn ymgymryd â’r gwaith ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith wedi’i gwblhau o fewn cyfnod o 10 wythnos. Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys amnewid palmentydd, tirweddu, seddau a dodrefn stryd.
Mae’r gwaith hwn yn dilyn amnewid goleuadau stryd a gwelliannau sydd wedi’u cwblhau yn ddiweddar.
Cynhelir y gwaith rhwng dydd Llun a dydd Gwener a gallwch fynd i’r siopau drwy gydol y cyfnod hwn. Bydd gorchmynion traffig a bydd yr ardal i gerddwyr yn unig a fydd ar gau i bob trafnidiaeth rhwng 11.30am a 5.00pm bob diwrnod gwaith.
Bydd gan ddeiliaid Bathodynnau Glas a cherbydau danfon fynediad y tu allan i’r oriau hyn fel sy’n arferol.
“Lleihau unrhyw anghyfluestra”
Mae Dawnus a staff y Cyngor wedi bod yn cysylltu â siopau a busnesau lleol i leihau’r anghyfleustra yn ystod cyfnod y gwaith.
Mae cyfle i chi weld beth sydd wedi’i gynllunio drosoch eich hun mewn arddangosfa yn Tŷ Pawb ar 17 Gorffennaf rhwng 5.00pm a 7.00pm. Bydd cynrychiolwyr o Dawnus a’r Cyngor wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rwy’n ddiolchgar iawn i staff am eu gwaith caled wrth sicrhau y bydd gwelliannau o’r ansawdd uchaf posibl, a sicrhau bod yr anghyfleustra i fusnesau ac ymwelwyr yng nghanol y dref mor isel â phosibl. Mae maint y gwaith yn golygu ei bod yn anorfod y bydd peth tarfu, ond rwy’n gobeithio y bydd pawb yn parhau i gefnogi canol y dref wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’n bwysig bod canol ein tref yn edrych yn ddeniadol ar gyfer busnesau a siopwyr fel ei gilydd. Bydd y gwaith yn sicr yn bywiogi’r ardal ac yn gwneud canol tref Wrecsam yn lle braf i fod ynddo.”
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen yr erthygl o fis Chwefror
” rel=”noopener” target=”_blank”>Ailwampio Canol y Dref
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
REPORT FLY TIPPING ONLINE