Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pwy sy’n dathlu ei 5ed penblwydd yn Tŷ Pawb yr wythnos hwn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Pwy sy’n dathlu ei 5ed penblwydd yn Tŷ Pawb yr wythnos hwn?
Busnes ac addysgPobl a lle

Pwy sy’n dathlu ei 5ed penblwydd yn Tŷ Pawb yr wythnos hwn?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2018 2:07 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Pwy sy'n dathlu ei 5ed penblwydd yn Tŷ Pawb yr wythnos hwn?
RHANNU

Mae yno wastad bethau mae angen mynd i’r afael â nhw’n sydyn – ond weithiau, rydyn ni’n brysur yn cynllunio at y dyfodol ac yn anghofio canolbwyntio ar beth sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Cynnwys
  • Pen-blwydd carreg filltir ar gyfer gofod celf poblogaidd Wrecsam
  • Mae Undegun yn dod i Tŷ Pawb
  • Beth i edrych allan am yr wythnos hon

Bellach wedi newid o’r enw gwreiddiol ‘Baggy Space’, mae Tŷ Pawb yn cyflwyno cyfres barhaus o wahanol weithgarwch amhenodol dan teitl ‘Ar frys’. Bydd y gyfres hon yn ymateb i bryderon ein cymuned ar hyn o bryd, yn ddefnyddwyr Tŷ Pawb a thu hwnt.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Pen-blwydd carreg filltir ar gyfer gofod celf poblogaidd Wrecsam

Mae’r cyntaf yn y gyfres hon yn cael ei gyflwyno i Ofod Celf UnDegUn, i gydnabod a dathlu’r rôl hanfodol sydd gan UnDegUn yn sîn ddiwylliannol Wrecsam. Ym mis Gorffennaf, bydd UnDegUn wedi bod ar waith am 5 mlynedd – oes dda i brosiect ‘dros dro’.

Wedi’i sefydlu yn 2013 mewn siop chwaraeon wag ar Stryt y Rhaglaw, gyda chefnogaeth elusen o Leeds, East Street Arts, mae UnDegUn yn cynnig stiwdios i nifer o arlunwyr lleol yn ogystal â mannau i arddangos a pherfformio’u gwaith. Mae’r gofodau mwy’n cael eu defnyddio’n aml gan grwpiau cymunedol lleol poblogaidd fel ‘Girls Who Make a ‘Voicebox’.

Mae Undegun yn dod i Tŷ Pawb

Ar gyfer yr wythnos maen nhw yno, bydd UnDegUn yn arddangos aelodau eu stiwdio yn ogystal â nifer o grwpiau cymunedol sy’n defnyddio eu gofod. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal bob dydd i bawb gymryd rhan ynddynt.

Yn ogystal â dathlu eu pum mlynedd gyntaf o weithgarwch, mae’r gofod yn ymrwymo i gynrychioli dymuniadau cymuned gelfyddydol Wrecsam i fedru cefnogi ei gilydd yn y ffyrdd mwyaf effeithiol posib.

Dywedodd Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb ac Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae UnDegUn yn glod i Wrecsam ac yn dangos y gymuned greadigol sy’n datblygu’n gyflym yn ein tref. Drwy gynnig platfform i’r sefydliad a’i ddefnyddwyr i arddangos eu gwaith, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i ymweld â nhw ac annog mwy i greu eu prosiectau tebyg eu hunain hefyd.”

Beth i edrych allan am yr wythnos hon

Bydd Undegun yn cynnal nifer o weithgareddau rheolaidd yn Nhŷ Pawb yr wythnos hon, gan gynnwys:

  • Dydd Mercher 6.30pm-7.30pm – ‘Girls Who Make’ – Sefydliad a digwyddiad misol a sefydlwyd i gefnogi creadigiaid lleol benywaidd. Croeso i bob math o wneuthurwyr yn y digwyddiad hwn am ddim! Dewch draw i gwrdd â merched tebyg i chi!
  • Dydd Iau 2pm-4pm – ‘Sgwrs – Sut allwn ni gefnogi ei gilydd?’ – Trafodaeth agored i ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl o’r gwahanol gymunedau creadigol yn Wrecsam i helpu ei gilydd i wneud gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau.
  • Dydd Gwener 6pm – Voicebox yn Tŷ Pawb – Wrth i chi lenwi’r gofod UnDegUn dros dro, mae Voicebox yn edrych i ychwanegu rhywfaint o sain i’r lleoliad-

6.10-6.30 Nathaniel Ramsey
6.40-7.00 Lianne Futia
7.10-7.30 Ben Wilson
7.40-8.00 Joey Vanzetti

Ewch i wefan Tŷ Pawb yma.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol wrexham news Gwelliannau ar eu ffordd i Ganol y Dref
Erthygl nesaf Road works Methiant i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ar arwyddion ffyrdd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dysgu yn Wrecsam
Use this handy tool to read and listen to council news and info in any language
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English