Efallai y byddwch yn ymwybodol bod gwersyll digartref bychan ar hen safle Groves.
Os ydych yn byw gerllaw a’ch bod yn pryderu amdano, rydym yn deall hynny’n iawn. Hefyd rydym yn deall anghenion pobl sy’n gwersylla ar y safle, a’r ffaith bod arnom angen diogelu’r adeilad.
Am y tro rydym yn goddef y sefyllfa ar y safle i atal problemau eraill rhag codi mewn ardaloedd eraill. Er bod y safle wedi’i feddiannu, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i geisio rheoli’r sefyllfa i helpu’r unigolion sydd ynghlwm.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dyma beth yr ydym am ei wneud…
Mae gan Gyngor Wrecsam, yr heddlu, gwasanaethau iechyd a’r sector gwirfoddol gynllun a fydd yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r problemau uniongyrchol.
Yr hyn a fydd yn digwydd
- Bydd y cyngor yn parhau â phatrolau diogelwch i helpu i gadw’r adeilad cyfagos yn ddiogel.
- Bydd yr heddlu yn parhau i ymateb i alwadau, yn patrolio’r perimedr a chysylltu â phreswylwyr lleol.
- Bydd gweithwyr estyn allan iechyd a thrydydd sector yn ymweld â’r safle saith niwrnod yr wythnos – yn ystod y dydd a chyda’r nos – i geisio ag ymgysylltu â’r bobl sy’n gwersylla yno, a’u hannog i gael cymorth.
Nid yw’n drefniant parhaol, ond bydd yn helpu i sicrhau bod y sefyllfa yn hawdd i’w drin tra bo partneriaid yn gweithio ar ddatrysiad dros yr wythnosau nesaf.
Cyfrifoldeb i breswylwyr, yr adeilad a’r bobl ar y safle
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:
“Rydym eisiau darparu diogelwch i breswylwyr sy’n byw ger Groves, ac mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu’r adeilad.
“Mae’r cyngor a’i bartneriaid hefyd wedi ystyried lles y bobl sy’n byw ar y safle.
“Mae gan y bobl sy’n gwersylla yno gwahanol fathau o broblemau – megis digartrefedd, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl gwael. Ni ellir mynd i afael â’r pethau hyn dros nos.
“Mae eu helpu i newid eu hamgylchiadau yn hanfodol i reoli’r problemau hyn yn Wrecsam. Bydd eu symud hwy ymlaen – heb geisio eu helpu – yn achosi problemau yn rhywle arall.
“Fodd bynnag, rydym angen canfod ffordd well o’u cefnogi mewn amgylchedd mwy addas, gan nad yw’n briodol i bobl wersylla ar y safle.
“Rydym i gyd eisiau gweld datrysiad llwyddiannus.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI