Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwiriadau newydd ar waith i fynd i’r afael â throsedd ar stepen y drws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwiriadau newydd ar waith i fynd i’r afael â throsedd ar stepen y drws
Arall

Gwiriadau newydd ar waith i fynd i’r afael â throsedd ar stepen y drws

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2019 4:47 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Construction Trade Checks
RHANNU

Mae Safonau Masnach wedi sefydlu partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru i gynnal Gwiriadau ar Fasnachwyr ar draws Wrecsam.

Nod y gwiriadau hyn yw sicrhau bod masnachwyr yn cydymffurfio â Deddfwriaeth Diogelu’r Defnyddiwr a’u bod yn gweithredu’n gyfreithlon. Fel rhan o’r broses hon, cysylltir â masnachwyr gan roi cyngor iddynt. Bydd Swyddogion hefyd yn siarad â deiliaid tai er mwyn sicrhau diogelwch ariannol ac amddiffyniad rhag camdriniaeth.

Mae Swyddogion yr Heddlu hefyd yn cynnal gwiriadau treth / yswiriant perthnasol ar gerbydau a byddant hefyd yn gwirio manylion unrhyw un sy’n gweithio yn yr eiddo. Byddant hefyd chwilio am arwyddion o gaethwasiaeth fodern a bydd y rhain yn cael eu hasesu a’u hadrodd yn ôl. Mae hyn yn rhan o flaenoriaethau’r Cyngor i gadw pobl yn DDIOGEL yn eu cartrefi a chreu cymdogaethau DIOGEL ar draws Wrecsam.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Fel y gwyddom, mae trosedd ar stepen y drws yn ymwneud â thargedu pobl yn fwriadol, pobl sydd yn aml yn hŷn neu’n ddiamddiffyn. Mae’r troseddwyr yn galw heibio’n ddigroeso, weithiau pan fo’r unigolyn allan yn yr ardd, ac yn cyhoeddi rhyw gelwydd megis bod teilsen i’w gweld yn rhydd ar y to. Maent yn cynnig gwneud y gwaith atgyweirio, gan honni eu bod eisoes yn gwneud gwaith i lawr y ffordd neu i gymydog. Byddant yn honni eu bod wedi gweld y broblem wrth basio ac mae’n bosib iddynt gynnig ei thrwsio yn y fan a’r lle am swm enwol.

Wedi iddynt dderbyn caniatâd gan yr unigolyn, buan iawn y mae’r gwaith a’r galw am daliadau yn dechrau cynyddu. O bosib y byddant hefyd yn mynd ag oedolion diamddiffyn i’r banc er mwyn iddynt allu tynnu arian o’u cyfrif. Yn aml, nid oedd angen gwneud unrhyw waith yn y lle cyntaf. Hefyd, mae’n bosib i’r gwaith a wnaed fod o ansawdd hynod wael a chreu problemau pellach i ddeiliad y tŷ yn ddiweddarach.

Cyngor Gwasanaeth Gwarchod Y Cyhoedd CBSW yw peidio ag ymdrin ag unrhyw un ar eich stepen drws. Nid oes rhaid i fasnachwyr cyfreithlon fynd i ddrws i ddrws. Ni fyddant ychwaith yn gofyn am daliadau arian parod ymlaen llaw. Mae gan fasnachwyr cyfreithlon gyfrifon busnes ar gyfer cyflenwyr, felly nid ydynt am ofyn i chi am filoedd ar filoedd o bunnoedd.

Mae Adran Dai CBSW yn gweithredu Cynllun Houseproud sydd ar gael i’r holl berchnogion tai sy’n byw yn Wrecsam. Am ffi fechan, bydd unigolion yn ymweld â thŷ ac yn asesu’r gwaith a ofynnir amdano ac yna yn chwilio am fasnachwyr lleol ag enw da i ddarparu dyfynbrisiau heb unrhyw rwymedigaeth.

Mae Houseproud yn goruchwylio’r gwaith ac yn sicrhau eich bod yn fodlon cyn talu. I gael rhagor o wybodaeth, gellir cysylltu drwy ffonio 01978 298993 neu anfon e-bost at housing@wrexham.gov.uk.

Mae Safonau Masnach ar draws Gymru yn goruchwylio’r cynllun Prynu gyda Hyder a gall masnachwyr lleol ymuno â’r cynllun hwn am ffi. Yna maent yn cael eu harchwilio gan Safonau Masnach ac yn derbyn cymeradwyaeth Safonau Masnach. Ar hyn o bryd mae’r cynllun yn mynd o nerth i nerth wrth i fwy o fusnesau lleol ymuno.

Gall aelodau gael mynediad at y rhestr gyfredol o fasnachwyr drwy www.buywithconfidence.gov.uk . Dylai unrhyw fusnes sy’n dymuno cofrestru ffonio 01978 298997 neu anfon e-bost at trading.standards@wrexham.gov.uk

Am gyngor a chymorth ar sut i ddelio â galwyr digroeso, ewch wefan Heddlu Gogledd Cymru.

I roi gwybod am unrhyw bryder mewn perthynas ag aelod o’r teulu, cymydog neu chi eich hun, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu’r Safonau Masnach drwy’r Gwasanaeth Cwsmer Cyngor Ar Bopeth ar 03454 04 05 05.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Curiad bwgi … yn y gofod! Curiad bwgi … yn y gofod!
Erthygl nesaf Wrexham Playday Sandpit Ydych chi’n barod ar gyfer Diwrnod Chwarae 2019?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English