Wrth i’r nosweithiau gau i mewn, ac rydym yn cychwyn meddwl am y gaeaf hir o’n blaenau, mae ein meddyliau’n troi at y Nadolig, a’r cwestiynau mae hynny’n ei godi…
Pwy sy’n dod atom ni? Lle awn ni? Twrci neu gig eidion? Beth i brynu i Taid? Lle awn ni ar gyfer y Parti Nadolig?
Nid oes modd i ni helpu gyda’r cwestiynau cyntaf yna, ond gallwn fod o gymorth gyda’r olaf – y Parti Nadolig.
Eu caru neu eu casáu, rydym ni gyd yn cael ein gwahodd i un o leiaf!
A cyn i chi benderfynu rhoi eich enw ar y rhestr a thalu eich blaendal, dylech wirio sgoriau hylendid bwyd y lleoliad.
Ac os mai chi sy’n trefnu’r parti, treuliwch amser yn gwirio sgôr hylendid y lleoliad – mae gan sawl le bamffledi deniadol a sgleiniog, ond os nad yw’n arddangos y sgôr hylendid bwyd, mae modd i chi ei wirio ar-lein. Mae’n ddoeth gwirio a oes gan unrhyw westeion alergedd bwyd, ac os felly, peidiwch ag anghofio gadael i’r lleoliad wybod pan rydych yn archebu eich lle.
Mae’n hawdd ac yn gyfleus – a gallwch arbed eich hun a’ch cydweithwyr neu berthnasau rhag dreulio’r Nadolig yn ddiflas iawn.
Mae’n rhaid i fusnesau Cymru arddangos eu sgôr yn yr eiddo, yn ôl y gyfraith, yn ogystal â hysbysu cwsmeriaid o’u sgôr pan fyddant yn gofyn. Gallwch ei wirio’n gyflym ac yn gyfleus yma.
Er mwyn derbyn sgôr, mae lleoliadau sy’n gwerthu bwyd, megis bwytai, mannau prydau cyflym a thafarndai yn cael eu harchwilio gan swyddogion o’n Tîm Bwyd a Ffermio i wirio bod eu safonau hylendid yn bodloni gofynion cyfreithiol.
Mae’r safonau hylendid a ddarganfyddir o’r archwiliadau hyn yn cael eu sgorio ar raddfa’n cychwyn ar 0 (gwelliannau brys yn angenrheidiol) i 5 (da iawn) yn dilyn archwiliad hylendid bwyd heb rybudd.
Yn ystod archwiliadau, bydd swyddogion yn gwirio pa mor dda mae’r busnes yn bodloni’r gyfraith drwy edrych ar:
Pa mor lân y caiff y bwyd ei drin – sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio,
Cyflwr strwythur yr adeiladau – glanweithdra, y cynllun, goleuadau, awyru a chyfleusterau eraill,
Sut mae’r busnes yn rheoli ac yn cofnodi’r camau a gymerir i sicrhau fod bwyd yn ddiogel, a hyfforddiant diogelwch bwyd.
Bydd y swyddog yn esbonio i’r unigolyn sy’n berchen ar y busnes, neu’n ei reoli, pa welliannau sydd eu hangen a sut y gallant gyflawni’r sgôr uchaf o ‘5’. Dylai bob busnes allu cyrraedd y sgôr uchaf hwn.
Felly, beth bynnag fo’ch dewis y Nadolig hwn, sicrhewch ei fod yn cael ei baratoi’n lân, ac yn annhebygol o roi boen bôl i chi, neu waeth.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN