Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwisgo gloyw – Byddwch ddiogel, byddwch weladwy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwisgo gloyw – Byddwch ddiogel, byddwch weladwy
ArallPobl a lle

Gwisgo gloyw – Byddwch ddiogel, byddwch weladwy

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2019 9:38 am
Rhannu
Darllen 8 funud
Gwisgo gloyw – Byddwch ddiogel, byddwch weladwy
RHANNU

Mae swyddogion yn annog defnyddwyr y ffyrdd i sicrhau eu bod yn ddiogel wrth i’r dyddiau fyrhau.

Cynnwys
  • Gyrwyr
  • Beicwyr
  • Cerddwyr

Mewn llai na pythefnos bydd yr haf yn dod i ben yn swyddogol a hoffai Heddlu Gogledd Cymru atgoffa defnyddwyr y ffyrdd i gymryd gofal a bod yn wyliadwrus pan fyddant allan.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Gyda’r clociau yn cael eu troi awr yn ôl mae’r newidiadau yn golygu y bydd y dyddiau’n byrhau ac y bydd yn tywyllu’n gynt. Golyga hyn felly y bydd plant, cerddwyr a beicwyr yn fwy bregus ac yn llai gweladwy i fodurwyr.

Meddai Prif Arolygydd Dros Dro Dave Cust o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Gyda’r clociau yn cael eu troi awr yn ôl a gan ei bod hi bellach yn tywyllu’n gynharach, mae’n eithriadol o bwysig bod pobl yn gallu eich gweld pan fyddwch allan. Mae’r cyfnodau hirach o dywyllwch yn y bore ac yn y nos, ynghyd ag amodau tywydd gwael yn golygu fod yna fwy o siawns bod pobl am fod mewn gwrthdrawiad.

“Dylai gyrwyr gymryd gofal ychwanegol yn y tywyllwch ac yn ystod tywydd drwg ac ystyried diogelwch eu hunain ac eraill. Dylid sicrhau bod cerbydau mewn cyflwr da i fod ar y ffordd, yn enwedig mewn cyfnod lle gall y tywydd newid heb rybudd. Drwy arafu pan fydd hi’n wlyb neu’n niwlog ac ystyried gyrwyr eraill, cerddwyr a beicwyr gall gyrwyr wneud gwir wahaniaeth o ran cynorthwyo i leihau’r nifer sy’n cael eu hanafu a’u lladd ar ein ffyrdd.

“Hefyd mae angen i feicwyr a beicwyr modur gymryd cyfrifoldeb a sicrhau eu bod yn weladwy drwy wisgo dillad llachar ac adlewyrchol. Yn aml rydym yn gweld beicwyr allan ar y ffyrdd yn gwisgo dillad du, sydd nid yn unig yn anaddas ond mae hefyd yn hynod o beryglus. Atgoffir beicwyr eu bod angen golau gwyn ar ffrynt y beic a golau coch ar y cefn.

“Fe ddylai rhieni hefyd wneud yn siŵr bod modd i bobl weld eu plant, ac eto dylent wisgo dillad llachar ac adlewyrchol pan fyddant yn cerdded i ac adref o’r ysgol.”

Ychwanegodd: “Mae hwn i gyd yn rhan o’n hymrwymiad er mwyn gwella diogelwch y ffyrdd ac atal mwy o drasiedïau ar ein ffyrdd. Rydym yn erfyn ar bawb i rannu’r cyfrifoldeb er mwyn cadw ein ffyrdd yn ddiogel.

“Yn ychwanegol at hyn fe fyddwn yn gwirio cerbydau ar ochr y ffyrdd er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da dros fisoedd y gaeaf. Dwi’n erfyn ar fodurwyr sicrhau fod y teiars yn iawn, fod y golau yn gweithio a bod digon o ddŵr er mwyn cadw eich ffenestr ffrynt yn glir. Cymrwch ofal ac arhoswch yn ddiogel.”

Dyma ychydig o gyngor i ddefnyddwyr y ffyrdd:

Gyrwyr

• Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau’n lân ac yn gweithio’n iawn.
• Gwnewch yn siŵr bod y ffenestr flaen yn lân tu mewn a thu allan.
• Defnyddiwch eich goleuadau pan fydd hi’n anodd gweld – er enghraifft yn gynnar yn y bore neu pan fydd yn nosi, pan fydd hi’n bwrw glaw neu’n dywyll. Bydd hyn yn cynorthwyo pobl eraill eich gweld.
• Peidiwch â dallu pobl eraill gyda’ch prif oleuadau.
• Arafwch. Dylech allu stopio o fewn y pellter yr ydych yn ei weld.
• Gwiriwch gyflwr eich sychwyr ffenestri a’ch golchwyr.
• Gofynnwch i rywun wirio cyflwr eich brêcs a’ch teiars – ar ffyrdd gwlyb mae hyd yn oed yn fwy hanfodol bod y brêcs yn gweithio’n iawn a bod y teiars yn gyfreithlon.
• Os bydd eich cerbyd yn torri i lawr, dewch oddi ar y ffordd cyn gynted â phosibl a rhowch eich goleuadau rhybudd ymlaen.
• Ystyriwch osod teiars gaeaf ar eich cerbyd yn ystod y tywydd oer
• Edrychwch allan am feicwyr wrth iddynt droi ger cyffordd.

Beicwyr

• Fe ddylech sicrhau bod goleuadau da ar eich beic. Mae’n drosedd i reidio eich beic yn y nos heb olau gwyn ar y tu blaen, golau coch ar gefn y beic ac adlewyrchydd coch ar gefn y beic.
• Fe ddylech roi’r goleuadau mewn mannau amlwg, ni ddylai’r sêt neu’r ffrâm eu cuddio.
• Mae’n syniad da cario batris a bylbiau sbâr gyda chi rhag ofn y byddwch angen eu newid yn ystod eich taith.
• Os ydych chi’n gweld cerbydau eraill yn defnyddio eu goleuadau, yna defnyddiwch eich rhai chi.
• Gwnewch ymdrech i gael eich gweld – dillad llachar sydd orau yn ystod y dydd a dillad adlewyrchol sydd orau yn y nos.
• Gwyliwch am yrwyr ceir. Cofiwch fod llai o feicwyr ar y ffyrdd yn y gaeaf felly efallai y bydd gyrwyr yn meddwl llai amdanynt.
• Nid traffig ydi’r unig berygl gyda’r nos. Gwyliwch am dyllau yn y ffyrdd, anifeiliaid, cerddwyr mewn dillad tywyll a beicwyr eraill heb oleuadau. Edrychwch amdanynt a rhowch ddigon o le iddynt pan fyddwch yn eu gweld.
• Gwnewch yn siŵr bod eich adlewyrchyddion yn lân bob amser.
• Gallwch wneud eich beic yn fwy gweladwy drwy roi adlewyrchyddion ar y sbôcs.

Cerddwyr

• Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawdd i’ch gweld bob amser, yn enwedig gyda’r nos, ar ddyddiau tywyll ac mewn tywydd garw.
• Dillad llachar sydd i’w gweld orau yn ystod y dydd, yn enwedig pan fydd hi’n ddwl neu’n niwlog.
• Gyda’r nos, dillad adlewyrchol sydd orau ac maent yn dangos i fyny yng ngoleuadau ceir – nid oes mantais gwisgo dillad llachar ar ôl iddi dywyllu.
• Gallwch roi tâp adlewyrchol ar ddillad, bagiau ysgol ac offer
• Croeswch y ffordd yn y man mwyaf diogel posibl er enghraifft wrth groesfan sebra, pelican, pâl a chroesfannau sy’n cael eu patrolio.
• Dilynwch Reolau’r Ffordd Fawr: Stopiwch, Edrychwch, Gwrandewch, Byddwch Ddiogel
• Os ydych allan gyda’r nos, dewiswch ffyrdd sydd wedi’u goleuo’n dda gan oleuadau stryd a chroeswch mewn mannau lle mae digon o olau.

Bydd swyddogion yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ryddhau negeseuon am ddiogelwch y ffordd, felly dilynwch yr hashnodau #ByddwchDdiogel a #ByddwchWeladwy.

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol General Election 2020 A ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio?
Erthygl nesaf Amser stori gyda’r awdur lleol, Chris Wallis Brown Amser stori gyda’r awdur lleol, Chris Wallis Brown

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English