Os ydych chi’n hoffi ffuglen hanesyddol, fe wnewch chi fwynhau’r noson hon yn rhan o Ŵyl Geiriau Wrecsam gan y byddwch chi’n cael dwy sioe am bris un.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Yn gyntaf, bydd panel o bedwar awdur arbennig – Angus Donald, Matthew Harffy, E M Powell a Deborah Swift – yn mynd ben-ben yng Nghynghrair y Pencampwyr ‘Mae fy nghyfnod i’n well na dy un di’.
Yn ail, bydd Alison Weir, yr awdures hanes fwyaf llwyddiannus yn y DU, sydd wedi gwerthu dros 2.7 miliwn o lyfrau ledled y byd, yn trafod ei nofel ddiweddaraf Anna of Kleve: Queen of Secrets!
Mae hi wedi cyhoeddi deunaw llyfr hanes, gan gynnwys Elizabeth the Queen, Eleanor of Aquitaine, The Lady in the Tower ac Elizabeth of York, a saith nofel hanesyddol!
Ar y noson, fe gewch ei chlywed yn trafod ei nofel ddiweddaraf, Anna of Kleeve: Queen of Secrets.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Theatr Nick Whitehead, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ddydd Gwener, 3 Mai am 7pm. Tocynnau: £8.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB