Ydych chi am bleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd eleni ar 2 Mai 2024, ond yn poeni na fydd modd i chi fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio?
Oeddech chi’n gwybod bod gan bob gorsaf bleidleisio fesurau ar waith i sicrhau bod modd i bawb sydd â’r hawl gyfreithiol i bleidleisio wneud hynny mewn ffordd hygyrch, boed ganddynt anabledd neu beidio? Mae staff etholiadau wrth law trwy gydol diwrnod y bleidlais i helpu hefyd.
Dyma restr o fesurau sydd ar waith ym mhob gorsaf bleidleisio Cyngor Wrecsam:
- bythau pleidleisio lefel isel i bobl anabl, sy’n addas i’w defnyddio gyda chadair olwyn
- hysbysiadau print bras o bapurau pleidleisio. (Gellir eu defnyddio i gyfeirio atynt, ond mae’n rhaid i chi fwrw eich pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol, fel sy’n ofynnol dan y gyfraith)
- bydd dyfeisiau cyffyrddol ar gael i alluogi pleidleiswyr dall neu sydd â nam ar y golwg i bleidleisio heb gymorth; gofynnwch i staff yn yr orsaf bleidleisio am y ddyfais hon
- os byddwch chi’n defnyddio’r ddyfais gyffyrddol, ond bod angen help arnoch, bydd modd i chi ofyn i’r swyddog llywyddu (yr unigolyn â gofal yn yr orsaf bleidleisio). Mae gofyniad cyfreithiol arnynt dan yr Angen am Gyfrinachedd felly bydd eich pleidlais yn aros yn breifat
- mae gripiau pensil ar gael i bleidleiswyr sydd â nam ar eu deheurwydd er mwyn gallu dal pensil yn haws a’i ddefnyddio’n annibynnol
Os bydd angen unrhyw help arnoch chi, bydd staff pleidleisio yn gwisgo bathodynnau er mwyn i chi allu eu hadnabod yn rhwydd.
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, angen cymorth i gofrestru neu i bleidleisio, cysylltwch â’r Tîm Etholiadau drwy ffonio 01978 292020.
Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisio hygyrch ar gael ar y dudalen Sut i bleidleisio ar ein gwefan.