Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwneud pleidleisio’n hygyrch i bawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwneud pleidleisio’n hygyrch i bawb
Y cyngorPobl a lle

Gwneud pleidleisio’n hygyrch i bawb

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 20, 2024 1:48 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
bleidleisio’n
RHANNU

Ydych chi am bleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd eleni ar 2 Mai 2024, ond yn poeni na fydd modd i chi fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio?

Oeddech chi’n gwybod bod gan bob gorsaf bleidleisio fesurau ar waith i sicrhau bod modd i bawb sydd â’r hawl gyfreithiol i bleidleisio wneud hynny mewn ffordd hygyrch, boed ganddynt anabledd neu beidio? Mae staff etholiadau wrth law trwy gydol diwrnod y bleidlais i helpu hefyd.

Dyma restr o fesurau sydd ar waith ym mhob gorsaf bleidleisio Cyngor Wrecsam:

  • bythau pleidleisio lefel isel i bobl anabl, sy’n addas i’w defnyddio gyda chadair olwyn
  • hysbysiadau print bras o bapurau pleidleisio. (Gellir eu defnyddio i gyfeirio atynt, ond mae’n rhaid i chi fwrw eich pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol, fel sy’n ofynnol dan y gyfraith)
  • bydd dyfeisiau cyffyrddol ar gael i alluogi pleidleiswyr dall neu sydd â nam ar y golwg i bleidleisio heb gymorth; gofynnwch i staff yn yr orsaf bleidleisio am y ddyfais hon
  • os byddwch chi’n defnyddio’r ddyfais gyffyrddol, ond bod angen help arnoch, bydd modd i chi ofyn i’r swyddog llywyddu (yr unigolyn â gofal yn yr orsaf bleidleisio). Mae gofyniad cyfreithiol arnynt dan yr Angen am Gyfrinachedd felly bydd eich pleidlais yn aros yn breifat
  • mae gripiau pensil ar gael i bleidleiswyr sydd â nam ar eu deheurwydd er mwyn gallu dal pensil yn haws a’i ddefnyddio’n annibynnol 

Os bydd angen unrhyw help arnoch chi, bydd staff pleidleisio yn gwisgo bathodynnau er mwyn i chi allu eu hadnabod yn rhwydd.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, angen cymorth i gofrestru neu i bleidleisio, cysylltwch â’r Tîm Etholiadau drwy ffonio 01978 292020.

Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisio hygyrch ar gael ar y dudalen Sut i bleidleisio ar ein gwefan.

Mae angen ID ffotograffig arnoch i bleidleisio mewn rhai etholiadau. Dim ID? Gallwachwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim ar-lien. Dysgwch fwy drwy fynd i yma.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ysgol Clywedog Fyny Fry i Dri o Ddisgyblion Ysgol Clywedog!
Erthygl nesaf Parking Enforcement Mae cyfyngiadau parcio’n berthnasol gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd – parciwch yn gyfrifol bob amser

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English