Winter Fuel

Gall aelwydydd cymwys hawlio un taliad o £200 i rhoi cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd ar y grid dros y gaeaf.

Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys, dim ots ai ydyn nhw’n talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy debyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Cymhwysedd

Rhaid i un aelod o’r cartref fod yn derbyn un o’r budd-daliadau lles prawf oedran gweithio canlynol:

  • Cynllun gostyngiad Treth y Gyngor
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Presenoldeb
  • Lwfans Gofalwyr
  • Gredydau Treth Plant
  • Lwfans Presenoldeb Cyson
  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth Newydd/Cyfrannol
  • Lwfans Ceisio Gwaith Newydd/Cyfrannol
  • Lwfans Byw i Bobl Anabl
  • Cymorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Gredyd Cynhwysol
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Gredyd Treth Gwaith

Rhaid eich bod wedi bod yn hawlio’r budd-daliadau hyn ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.

Os nad yw deiliad tŷ (neu ei bartner) sy’n atebol am dalu’r costau tanwydd yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymwys, dylid pennu/ystyried bod deiliad y tŷ yn gymwys i gael taliad os oes person cymwys yn byw gydag ef.

Mae person yn bodloni’r diffiniad o berson cymwys os yw’n:

  • Meddiannu cartref deiliad y tŷ fel ei brif breswylfa ac
  • Yn blentyn dibynnol neu’n oedolyn arall sy’n byw gyda ddeiliad y tŷ (neu ei bartner) ac
  • Mae’n cael un o’r budd-daliadau:
    • Lwfans Gweini
    • Lwfans Byw i Bobl Anabl
    • Taliad Annibyniaeth Personol
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Lwfans Gweini Cyson
    • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Mae hyn yn adlewyrchiad o’r costau ynni uwch sy’n arferol mewn aelwyd lle mae person anabl yn byw, a dull synnwyr cyffredin sy’n cydnabod bod Lwfans Byw i Bobl Anabl yn cael ei ddyfarnu’n bennaf i blentyn anabl o dan 16 oed (na all fod yn ddeiliad tŷ).

Sut i wneud cais

Rhaid i bob cais cael ei dderbyn cyn 28 Chwefror 2023. Bydd taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddianus yn cael ei gwneud o fis Hydref 2022 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023.

Byddwn yn ysgrifennu at aelwyd sy’n gymwys ac yn derbyn gostyngiad Treth y Cyngor. Byddwn yn gofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi’r hawliad, ynghyd a manylion i ganiatáu’r taliad.

Fel arall, os credwch eich bod yn gymwys i gael y gefnogaeth hon gallwch gyflwyno cais trwy ein ffurflen ar-lein.

Os byddwch chi’n parhau i wynebu caledi ariannol difrifol, efallai yr hoffech chi wneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF).