Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwobr Aur i Wrecsam yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwobr Aur i Wrecsam yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau 2024
Pobl a lleBusnes ac addysg

Gwobr Aur i Wrecsam yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau 2024

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 31, 2024 9:50 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham was awarded Gold and ‘City’ category winner at the Royal Horticultural Society’s Britain in Bloom 2024 awards.
RHANNU

Rydym wrth ein boddau yn rhoi gwybod i chi fod Wrecsam wedi ennill y wobr Aur yn ogystal ag ennill categori ‘Dinas’ yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau 2024 Cymdeithas Arddwriaeth Frenhinol yn ddiweddar.

Cynnwys
  • “Mae’r cyfan yn Wrecsam”
  • “Gwaith tîm, llawn o waith caled ac ymroddiad”
  • “Rydych chi gyd yn bobl ysbrydoledig”

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo nos Lun, 21 Hydref yn Stadiwm Manceinion Unedig yn Old Trafford.

Fe enillodd Wrecsam y Wobr Aur yn y categori ‘Dinas’ gan guro Dundee, Yr Alban a Bwrdeistref Havering yn Llundain, i gael ei goroni yn enillydd.  Cyflwynwyd y wobr gan Frances Tophill, un o gyflwynwyr Gardeners’ World ar y BBC.

Roedd y Cynghorydd Nigel Williams fel Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, Nicola Ellis, Craig Youens a Jacinta Challinor o’n Tîm Amgylcheddol yno’n cynrychioli Wrecsam, ac Andrea Evans o Codwyr Sbwriel Wrecsam, ac Elly Evans a Jim Crabtree o Ardd Furiog Erlas.

Enillodd Elly Evans o Ardd Furiog Erlas wobr Cefnogwr Cymunedol. Mae’r wobr yn tynnu sylw at unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i fannau gwyrdd lleol, gan ysbrydoli gwirfoddolwyr a gyrru newid cadarnhaol.

Mae Prydain yn ei Blodau yn ysbrydoli grwpiau cymunedol mewn trefi, dinasoedd a phentrefi i wneud newidiadau i’w hamgylchedd lleol drwy weithredoedd garddwriaethol, amgylcheddol a chymunedol.

“Mae’r cyfan yn Wrecsam”

Meddai Darren Share a Jon Wheatley, beirniaid Prydain yn eu Blodau: “Mae’r cyfan yn Wrecsam, o arddangosfeydd tymhorol i arddio bywyd gwyllt, garddwyr ifanc mewn ysgolion, i’r rheini sydd yn gallu trosglwyddo eu gwybodaeth helaeth i eraill.” Bu’r beirniaid hefyd yn canmol prosiectau llwyddiannus garddio trefol a bioamrywiaeth y grŵp.

Cafwyd adborth pellach: “Mae ymrwymiad y ddinas hon i fioamrywiaeth yn helaeth ac wedi’i gefnogi gan drefniadau cadarn i fonitro bywyd gwyllt a sicrhau bod targedau’n cael eu cyrraedd.  Mae yna 20 o ddolydd blodau gwyllt, ac yn cyd-fynd â nhw mae nifer o ynysoedd traffig sy’n cael eu noddi sy’n darparu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt, yn enwedig gwenyn a gloÿnnod byw.

‘Mae yna ffocws hefyd ar blannu coed ar gyfer manteision hirdymor ac mae’r ddinas wedi ennill statws Dinas Goed y Byd.

‘Mae rhaglen lwyddiannus atal gwastraff Wrecsam hefyd wedi creu argraff – diolch i fentrau megis canolfan addysg, siop ailddefnyddio, caffi trwsio a gwasanaeth benthyg offer.

‘Mae synwyryddion arloesol yn monitro pryd i ddyfrio planwyr – ffordd wych o gadw dŵr.’

“Gwaith tîm, llawn o waith caled ac ymroddiad”

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth a fynychodd y seremoni: “Rydym ni’n falch iawn gyda’r hyn rydym wedi’i gyflawni, yn dilyn gwobr aur Cymru yn ei Blodau yn ddiweddar. Mae hi wedi bod yn waith tîm cyfan, yn llawn gwaith caled ac ymroddiad gan bawb, ac mae cael ein cydnabod fel enillwyr yng nghategori ‘Dinas’ yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau 2024 yn golygu llawer iawn.  Mae sylwadau ac adborth y beirniaid yn dangos faint o argraff a grëwyd arnynt gyda’r amrywiaeth o fentrau sydd wedi cael eu rhoi ar waith o amgylch y Sir.”

“Rydych chi gyd yn bobl ysbrydoledig”

Roedd Wrecsam yn falch o fod yn cynrychioli Cymru gyfan yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau.

Meddai Peter Barton-Price, Cadeirydd Cymru yn ei Blodau: “Fe hoffwn achub ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch yn bersonol ac ar ran Cymru yn ei Blodau am eich cyflawniad rhagorol yng Ngwobrau Prydain yn ei Blodau Cymdeithas Arddwriaeth Frenhinol eleni.    

“Mae cyrraedd y safon Aur yn nhri rhan y meini prawf beirniadu yn amlwg yn dangos eich ymrwymiad i’r amgylchedd naturiol, mannau gwyrdd ac addysg, mae hi’n glir gweld bod pobl Wrecsam wir yn cefnogi’r mentrau yma ac yn eu tro, wedi trefnu byddin fechan o wirfoddolwyr i gefnogi eu dinas. 

“Mae’r dull blaengar yma’n golygu bod Wrecsam yn ei Blodau wedi ennill Gwobr Aur a Chategori Dinas 2024, rydych chi wir yn bobl ysbrydoledig ac wedi cynrychioli nid yn unig Wrecsam, ond Cymru ar y lefel uchaf.

“Unwaith eto, ‘llongyfarchiadau’ i chi gyd.”

Gallwch ddarllen am ymweliad y beirniaid â Wrecsam yn ystod mis Awst yn ein blog blaenorol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Estyn Dedfryd o garchar i döwr twyllodrus
Erthygl nesaf wrexham library Dethol gyrrwr Llyfrgelloedd Wrecsam yn nhîm Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English