Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwobr i ddatguddiwr lleol am ‘un o’r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwobr i ddatguddiwr lleol am ‘un o’r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf’
Pobl a lle

Gwobr i ddatguddiwr lleol am ‘un o’r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf’

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 14, 2020 6:31 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwobr i ddatguddiwr lleol am 'un o'r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf'
Susie White (Swyddog Darganfyddiadau Lleol Gogledd Cymru), Rob Jones, y Cynghorydd Hugh Jones, (Aelod arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Cymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, a chynghorydd lleol Yr Orsedd)
RHANNU

Mae ddatguddiwr lleol wedi derbyn gwobr am ddarganfod un o’r gwrthrychau Rhufeinig mwyaf arwyddocaol a ddarganfuwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cynnwys
  • Darganfyddiad werthfawr
  • ‘Rhyfeddais pa mor gyflym y lledaenodd y newyddion’
  • ‘Gwobr ‘haeddiannol iawn’

Derbyniodd Rob Jones o Goedpoeth y wobr ‘Canfyddiad Mwyaf Sylweddol yng Nghymru’ gan y gylchgrawn Searcher am ddarganfod ingot plwm Rhufeinig ger Yr Orsedd.

Darganfyddiad werthfawr

Mae ingot yn cael ei ffurfio pan fydd metel tawdd, yn yr achos hwn, plwm, yn cael ei daflu i siâp yn barod i’w brosesu ymhellach.

Dim ond hanner metr o hyd yw ingot plwm Yr Orsedd ond mae’n pwyso 63 cilogram!

Mae llai na chant o ingotau plwm o’r math hwn yn hysbys o fwyngloddiau Prydain Rufeinig.

Mae’r darganfyddiad prin hwn hefyd yn arwyddocaol i archeolegwyr a haneswyr, oherwydd ei ddyddiad cynnar posibl, lleoliad y gwrthrych, ac oherwydd yr arysgrif unigryw.

Mae’r arysgrif ar yn ingot yn crybwyll Marcus Trebellius Maximus, a oedd yn lywodraethwr ar dalaith Britannia, o dan yr Ymerawdwr Nero o AD 63-69. Ni ddarganfuwyd unrhyw arysgrifau eraill gyda’i enw erioed yn y DU, a dyna pam mae wedi denu cymaint o gyffro yn genedlaethol

Rhoddodd Mr Jones, o Goedpoeth, Wrecsam, wybod i’r Swyddog Darganfyddiadau Lleol (GDd Cymru) ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru yn Amgueddfa Wrecsam. Bu archeolegwyr o’r Amgueddfa a’r Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn asesu’r hyn a ddarganfuwyd. Roedd hyn yn caniatau yr archeolegwyr i gofnodi’r lleoliad fel y gall mwy o wybodaeth gael ei ddarganfod am y gwrthrych.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Gwobr i ddatguddiwr lleol am 'un o'r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf'
Gwobr i ddatguddiwr lleol am 'un o'r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf'

‘Rhyfeddais pa mor gyflym y lledaenodd y newyddion’

Dywedodd Rob Jones: “Rwyf wedi bod yn datguddio metel er 1996 yn ardal Wrecsam ac o’i chwmpas. Mae gen i lawer o eitemau wedi’u recordio gyda PAS Cymru, wedi’u lleoli yn Amgueddfa Wrecsam gan gynnwys eitemau o’r oes haearn, Rhufeinig a chanoloesol sydd i gyd yn ychwanegu at hanes Wrecsam.

“Rhyfeddais pa mor gyflym y lledaenodd y newyddion am fy narganfyddiad ledled y byd. Cefais negeseuon o America, Rwsia, Norwy i enwi ond ychydig ac rwyf wedi cael sylw mewn ychydig o gylchgronau gan gynnwys cylchgrawn Treasure Hunting a chylchgrawn Searcher ac rwy’n falch iawn o clywed fy mod wedi ennill gwobr Darganfyddiad Mwyaf Sylweddol yng Nghymru cylchgrawn Searcher.

“Rydw i mor hapus iddo gael ei gaffael gan Amgueddfa Wrecsam fel bod pawb yn gallu ei weld.

Trwy ddod o hyd i’r ingot hwn, rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gydag archeolegwyr o Wrecsam a Chaer ac yn edrych i ysgrifennu pennod newydd am y Rhufeiniaid yng Ngogledd Cymru ac i ddatgelu mwy o hanes Rhufeinig Wrecsam

‘Gwobr ‘haeddiannol iawn’

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, a chynghorydd lleol Yr Orsedd: “Mae mochyn plwm Yr Orsedd yn arwyddocaol iawn yn hanes cynnar ein hardal. Hoffwn longyfarch Rob am ennill y wobr am y darganfyddiad hynod ddiddorol hwn sy’n procio’r meddwl. Mae’n haeddiannol iawn am yr ymroddiad y mae wedi’i ddangos.

“Mae ymchwil yn parhau i’r darganfyddiad gyda’r Amgueddfa a Phrifysgol Caer yn rhedeg prosiect ar y cyd o’r enw ‘In the Footsteps of Trebellius Maximus’ sy’n edrych ar safle’r ingot yn ogystal â’r Fila Rhufeinig newydd a ddarganfuwyd yn ddiweddar gerllaw.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Virtual Museum Dewch i weld Amgueddfa Wrecsam – Ar y We
Erthygl nesaf Daliwch ati gyda’r ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig Daliwch ati gyda’r ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English