Mae’r tîm Cymunedau am Waith a Mwy wedi cael eu llongyfarch am wneud gwahaniaeth positif i ddynion yn CEF Berwyn.
Mae’r tîm wedi bod yn siarad â dynion fydd yn cael eu rhyddhau cyn bo hir yn ardal Wrecsam ac yn eu cynghori pa fath o gefnogaeth sydd ar gael iddynt er mwyn eu helpu yn ôl i waith neu hyfforddiant.
Rhoddodd CEF Berwyn wahoddiad i’r tîm, ynghyd ag eraill, i ddathlu eu cyflawniadau ar y cyd dros y flwyddyn ddiwethaf a chawsant wobr a thystysgrif i ddiolch am eu cyfraniad at wneud gwahaniaeth positif.
Cyflwynwyd y wobr gan Lywodraethwr CEF Berwyn, Nick Leader, ac arysgrifiwyd arni:
‘Diolch yn fawr iawn am roi cyfle i ddynion CEF Berwyn gael gwaith a’u helpu i wneud gwahaniaeth positif i’w dyfodol’.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae’r berthynas â CEF Berwyn yn un gref iawn erbyn hyn ac mae’r tîm yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol fel bod y rhai sy’n nesáu at gael eu rhyddhau yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.”
All Cymunedau am Waith a Mwy fy helpu i?
Mae gan Gymunedau am Waith a Mwy dîm ymroddedig o staff hynod o fedrus, sydd yn gallu cefnogi pobl sy’n byw yn Wrecsam drwy ddarparu mentora un-i-un sydd wedi’i addasu i anghenion unigolion.
- Sgiliau hanfodol
- Addysg a hyfforddiant
- Sgiliau digidol Sut i lwyddo mewn cyfweliad
- Cefnogaeth gyda CV a cheisiadau swyddi
- Cymhelliant a Hyder
- Cyngor ar fod yn hunangyflogedig
- Gwirfoddoli/Lleoliadau Gwaith
- Gwaith â Thâl
Os ydych yn ddi-waith ar hyn o bryd ac yn byw yn Wrecsam, yna gall Cymunedau am Waith Wrecsam eich helpu. Ewch i igofrestru eich manylion, a bydd aelod cyfeillgar o’r tîm yn cysylltu â chi.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD