Mae’r 100 uchaf o bobl neu brosiectau sydd wedi gwneud gwahaniaeth yng Nghymru wedi’u henwi – ac mae Hwb Lles Wrecsam yn un ohonynt!
Mae’r rhestr o 100 o ‘Ysgogwyr Newid’ yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru ac mae wedi’i llunio gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Agorwyd Hwb Lles Wrecsam y llynedd ac mae’n dod â llu o wasanaethau ynghyd mewn un lle, yn cynnwys y rhai gan Gyngor Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Gyda’i gilydd, mae’n nhw’n darparu datrysiadau ataliol ac amgen i ofal a chefnogaeth mewn lle diogel, gyda chyfleusterau hygyrch i bob oed a gallu, gan helpu i atal salwch ac annog pobl i fyw bywydau hir a hapus.
Yn rhan o’r rhestr o 100 o Ysgogwyr Newid, mae’r Hwb Lles yn cael ei gydnabod am ei ddull arloesol ymysg rhestr glodwiw o feirdd, gweithwyr sector cyhoeddus, gweithredwyr, dylanwadwyr, busnesau, ysgolion a gwirfoddolwyr, ynghyd â’r actor a’r ymgyrchydd, Michael Sheen.
Dywedodd Sophie: “Rydw i’n edrych yn ôl dros y saith mlynedd ddiwethaf gyda balchder mawr ac rwy’n aml yn cael fy synnu gan beth mae Cymru wedi gallu ei gyflawni yn y cyfnod hwn. Mae cymaint mwy i’w wneud, ond rydym ni wedi casglu digon o fomentwm i sicrhau bod manteision y Ddeddf yn parhau i ehangu.
“Ond ni fyddai’r newid rydym wedi’i weld dros fy nghyfnod i fel Comisiynydd yn ddim heb y miloedd o bobl ysbrydoledig rydw i wedi’u cyfarfod ar hyd a lled Cymru… Dyna pam fy mod yn cyhoeddi’r rhestr o 100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD