Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed am y cynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Lôn Barcas.
Bu i ni ddechrau cyfnod o wrthwynebu statudol ar y cynlluniau ar ôl cyfarfod ein bwrdd gweithredol ddydd Mawrth, 12 Mawrth.
Mae cynlluniau i ehangu’r ysgol yn cynnwys creu estyniad i’r adeilad presennol er mwyn gwneud lle i 105 o ddisgyblion ychwanegol.
Bydd y niferoedd sy’n cael eu caniatáu bob blwyddyn yn cynyddu 15 lle o 2020 ymlaen yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn a bydd y rheini’n parhau drwy’r ysgol nes cyrraedd yr uchafswm o 315 – a 45 o leoedd meithrin.
On’d ydi’r ymgynghoriad wedi bod?
Ydi – ond ymgynghoriad oedd hwnnw; nid cyfnod gwrthwynebu statudol.
Cyn i ni fynd ati i wneud newidiadau i ysgolion, rydyn ni’n ymgynghori gyda’r cymunedau lleol ynglŷn ag unrhyw benderfyniadau posib’, cyn i’r bwrdd benderfynu ar ddim byd.
Pan mae penderfyniadau wedi’u gwneud, mae’n rhaid i ni wedyn agor y cyfnod gwrthwynebu statudol, gan roi cyfle i bobl wrthwynebu – os ydynt am wneud hynny.
Er ei fod yn gallu ymddangos ychydig yn gymhleth, mae’n digwydd pryd bynnag mae penderfyniadau mawr ynghlwm ag ysgolion, ac mae’r un peth yn wir yma gydag ysgol Lôn Barcas.
Felly os ydych chi am wrthwynebu i rywbeth, mae’n bwysig ein bod ni’n clywed eich barn chi.
I gyflwyno gwrthwynebiad, darllenwch fwy ar yr hysbysiad ar ein gwefan.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN