Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pedair Gŵyl Gelfyddydol Fwyaf Cymru yn Ymuno i Gyflwyno Gŵyl 2021, Gŵyl ar-lein am ddim
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Pedair Gŵyl Gelfyddydol Fwyaf Cymru yn Ymuno i Gyflwyno Gŵyl 2021, Gŵyl ar-lein am ddim
Arall

Pedair Gŵyl Gelfyddydol Fwyaf Cymru yn Ymuno i Gyflwyno Gŵyl 2021, Gŵyl ar-lein am ddim

Diweddarwyd diwethaf: 2021/02/10 at 1:54 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Gwyl 2021
RHANNU

Erthygl gwestai gan “FOCUS Wales”

Mae pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021; gŵyl ar-lein am ddim yn llawn dop â cherddoriaeth a chomedi cofiadwy, sy’n cofleidio amrywiaeth a sgwrs. Wedi’i ffilmio neu’i recordio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn rhyngwladol o dan ganllawiau Cofonafeirws, caiff Gŵyl 2021 ei darlledu ar-lein ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 drwy gydol penwythnos 6-7 Mawrth.

Mae Gŵyl 2021 yn ddigwyddiad digidol heb ei ail ar gyfer cyfnod digynsail, sy’n taflu goleuni, gobaith a gwytnwch y sin greadigol yng Nghymru. Wedi bron flwyddyn o gadw pellter cymdeithasol, mae Gŵyl 2021 yn nodi undod emosiynol – rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd, o Gymru a’r byd. Mae’n cydnabod bod pŵer yn ein llais cyfunol, a thaw mewn undod mae nerth.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Fel pob gŵyl gwerth ei halen, bydd Gŵyl 2021 yn dathlu lleisiau cyfarwydd ac yn darganfod lleisiau eclectig a newydd, o Gymru a thu hwnt. Mae’r artistiaid yn cynnwys Cate Le Bon yn cydweithio â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN (BBC Music Sound of 2021), Carys Eleri (enillydd Gŵyl Fringe Adelaide), Arlo Parks a Dani Rain, sef drymiwr y grŵp Neck Deep.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill mae Charlotte Adigéry, Adwaith – y grŵp ‘post-punk’ a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Sinead O’Brien y Wyddeles sy’n fardd ac yn arloeswr ‘art rock’, a Jordan Brookes enillydd Gwobr Comedi Caeredin; Ani Glass a enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn, Sprints y grŵp o Ddulyn, N’Famady Kouyate – y cerddor o Gini, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r grŵp sgetsh Tarot. Mae cwmni dawns Jukebox Collective hefyd wedi curadu perfformiadau gan yr artist reggae Aleighcia, yr artist RnB/canu enaid Faith, y canwr a rapiwr Reuel a’r artist gair llafar Jaffrin Khan a rhagor.

Bydd perfformiad ecsgliwsif, unigryw gan Brett Anderson, Charles Hazlewood a Paraorchestra, yn cyflwyno’r gwesteion arbennig Nadine Shah, Adrian Utley a Seb Rochford, yn ogystal â phenodau arbennig o’r podlediad comedi Welcome to Spooktown ac I Wish I Was an Only Child, gydag ambell i westai gwadd Cymreig cyfarwydd.

Bydd yr ŵyl hefyd yn creu cysylltiadau rhyngwladol. Bydd FOCUS Wales yn cyflwyno artistiaid o bob rhan o Ganada yn ogystal â pherfformiadau rhyngweithiol ac ecsgliwsif, a bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau ecsgliwsif o Leisiau Eraill Aberteifi.

Mae bob ymarfer, sesiwn ffilmio a recordio wedi digwydd, neu’n mynd i ddigwydd o fewn canllawiau Coronafeirws lleol. Mar pob cynnwys wedi’I greu yng Nghymru wedi’u wneud mewn ymgynghoriad llwyr â Llywodraeth Cymru.

Caiff y rhestr lawn o artistiaid ac amserlen ei chadarnhau, a chaiff yr ŵyl ei darlledu drwy gydol y penwythnos, drwy www.bbc.co.uk/gwyl2021 a BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Bydd modd gwylio cynnwys yr ŵyl eto am saith diwrnod ar blatfform y BBC.

Dwedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Mae Gŵyl y Llais wedi bod yn uchafbwynt ein calendr ers 2016, ac roedd gŵyl y llynedd yn argoeli i fod yn wych. Yn sgil y pandemig, canslwyd ein cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol, ond rydyn ni wrth ein boddau’n cydweithio â phartneriaid ardderchog i gyflwyno Gŵyl 2021 ym mis Mawrth. Daw â’r gorau o’r pedair gŵyl, ynghyd â’n chwilfrydedd a’n hangerdd dros fwynhau perfformiadau gwych. Gobeithiwn y daw’r ŵyl ag ychydig o lawenydd i’w chynulleidfa ar ddechrau’r gwanwyn.”

Dwedodd Henry Widdicombe, Gŵyl Gomedi Aberystwyth: “Rydyn ni wrth ein boddau yn cydweithio â thair gŵyl Gymreig anhygoel, er mwyn cyflwyno’r digwyddiad ar-lein yma ym mis Mawrth. Er bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol a digynsail i’r sector digwyddiadau, mae digwyddiad fel hwn yn dangos bod y gymuned gelfyddydol wedi dod ynghyd o ganlyniad i’r heriau. Mae’r rhaglen sy’n cael ei churadu yn ardderchog, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan ohoni.”

Dwedodd Neal Thompson, FOCUS Wales: “Mae’n bleser bod FOCUS Wales wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â thair o wyliau mwyaf adnabyddus Cymru, i greu Gŵyl 2021. Yn dilyn blwyddyn dywyll ac anodd i bob un ohonom ni, rydyn yn edrych ymlaen yn fawr at ddod ynghyd a dathlu diwylliant cyfoethog ac amrywiol Cymru gyda rhaglen o gerddoriaeth a chomedi rhagorol.”

Dwedodd Dilwyn Davies, Lleisiau Eraill Aberteifi: “Mae Lleisiau Eraill a Mwldan yn hynod gyffrous am y syniad o benwythnos anhygoel o gerddoriaeth a chomedi o Gymru, a’r cyfan wedi’i greu a’i rannu ar draws y DU gan ein partneriaid hyfryd. Yn ystod cyfnod o wahaniad, pellter a chyfnod cloi, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod ni – artistiaid, cynulleidfaoedd a chriw – yn dod ynghyd i rannu a dathlu cyfoeth ein diwylliant amrywiol.”

Dwedodd Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae BBC Cymru Wales wrth ei bodd yn cydweithio â Gŵyl 2021. Rydyn ni gyd angen tamaid o greadigrwydd, comedi a cherddoriaeth ar hyn o bryd, ac mae’r bartneriaeth newydd hon rhwng pedair gŵyl Gymreig wych yn argoeli i fod yn wych.”

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Superfast Business Wales launches free Winter webinars for businesses Gweminarau rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau yn rhannu cyfrinachau gwerthu ar-lein
Erthygl nesaf School pencils Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar gyfer dychwelyd disgyblion cyfnod sylfaen yn ofalus i ysgolion Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025

Gorffennaf 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English