Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar gyfer dychwelyd disgyblion cyfnod sylfaen yn ofalus i ysgolion Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar gyfer dychwelyd disgyblion cyfnod sylfaen yn ofalus i ysgolion Wrecsam
Busnes ac addysgY cyngor

Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar gyfer dychwelyd disgyblion cyfnod sylfaen yn ofalus i ysgolion Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 10, 2021 5:13 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
School pencils
RHANNU

Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo, wrth i Wrecsam ystyried trefniadau ar gyfer ailagor ysgolion i ddysgwyr y cyfnod sylfaen (plant 3-7 oed).

Cynnwys
  • Dull gofalus
  • Cynllunio gofalus
  • Sut y gallwch chi helpu

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y gallai ysgolion ddechrau ailagor ar gyfer plant iau o ddydd Llun, 22 Chwefror.

Er bod lefelau’r coronafeirws yn gostwng yn Wrecsam, mae’r ffigurau’n dal yn uchel iawn, felly mae’r cyngor a’r penaethiaid yn ystyried cynlluniau’n ofalus, wrth fonitro’r sefyllfa leol yn barhaus.

Yn sgil y dull gofalus hwn, ni fydd plant yn dychwelyd i ysgolion yn Wrecsam tan ddydd Gwener, 26 Chwefror ar y cynharaf – yn dibynnu ar lefelau lleol y coronafeirws ar ôl hanner tymor.

Dull gofalus

Bydd penaethiaid yn rhannu gwybodaeth fanylach gyda rhieni a gofalwyr ar ôl gwyliau’r hanner tymor, unwaith y bydd lefelau’r coronafeirws wedi’u hadolygu.

A hyd yn oed wedyn, bydd y cyngor a’r penaethiaid yn parhau i fonitro lefelau lleol, ac yn adolygu trefniadau os bydd angen.

Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y lefelau uchel parhaus o’r coronafeirws yn yr ardal.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Dywed y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:

“Mae lefelau’r coronafeirws wedi bod yn waeth o lawer yn Wrecsam o gymharu â llawer o rannau eraill o Gymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, felly rydym ni’n gweithredu’n ofalus.

“Byddwn yn monitro’r sefyllfa leol yn barhaus, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion i adolygu a chwblhau trefniadau ar ôl yr hanner tymor.

“Ni fydd dysgwyr y cyfnod sylfaen yn dychwelyd tan 26 Chwefror ar y cynharaf, a bydd penaethiaid yn rhoi gwybodaeth lawn i rieni.

“Mae’n ymwneud â helpu i gadw pobl yn ddiogel, a lles ein disgyblion, staff, rhieni, gofalwyr a chymunedau ehangach yw ein blaenoriaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:

“Rydyn ni’n gweithio gydag penaethiaid cynradd, llywodraethwyr ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y dychweliad i’r ysgol yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

“Rhaid i ni gofio bod hwn yn firws ofnadwy, ac ni allwn fforddio gollwng ein gwarchod.

“Dyma pam ei bod mor bwysig ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i gadw ein plant, gweithwyr ysgol a’r cymunedau lle mae ein hysgolion wedi’u lleoli mor ddiogel ag y gallwn.”

Cynllunio gofalus

Dywed Karen Evans, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar:

“Gyda chefnogaeth y cyngor, bydd ysgolion yn cynllunio’n ofalus ar gyfer dychwelyd disgyblion y cyfnod sylfaen, gan ystyried y sefyllfa leol ar ôl yr hanner tymor.

“Hoffwn ddiolch unwaith eto i rieni a gofalwyr plant hŷn, a fydd yn parhau i ddysgu gartref.

“Rydyn ni’n gwybod bod dysgu o bell yn dod â sawl her i deuluoedd sy’n ceisio rheoli cyfrifoldebau gwaith a chartref, ac rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar i rieni, plant a staff am eu hymdrechion parhaus.”

Sut y gallwch chi helpu

Os bydd eich plant yn dychwelyd i’r ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf, helpwch i gadw ein hysgolion a’n cymunedau yn ddiogel drwy ddilyn y rheolau hyn:

  • Peidiwch â rhannu car pan fyddwch yn gollwng neu’n casglu eich plant.
  • Peidiwch ag ymgynnull wrth gatiau’r ysgol (peidiwch ag aros yno yn hwy nag sydd angen i chi wneud).
  • Peidiwch â gadael i’ch plant gwrdd â grwpiau o blant o aelwydydd eraill y tu allan i’r ysgol (dywed y rheolau cyfredol mai dim ond un person arall y gallwch chi ei gyfarfod i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored).

Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwyl 2021 Pedair Gŵyl Gelfyddydol Fwyaf Cymru yn Ymuno i Gyflwyno Gŵyl 2021, Gŵyl ar-lein am ddim
Erthygl nesaf Ty Pawb Galwad Agored: Sut y gallwch fod yn rhan o raglen cerddoriaeth fyw Tŷ Pawb ar gyfer 2021/22

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English