Dydd Sadwrn, Hydref 12
Yn dilyn llwyddiant Gŵyl Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a gynhaliwyd y llynedd am y tro cyntaf, bydd Cyfeillion Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (FfBC) yn cynnal Gŵyl FfBC eleni ym Marics Hightown, Wrecsam, ddydd Sadwrn 12 Hydref.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth. Fe fydd yna sgyrsiau, arddangosfeydd o archif Amgueddfa FfBC ac arddangosiadau gan Ail-grewyr Napoleonaidd ar y diwrnod.
Mae’r siaradwyr yn arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, megis Mr Mick Crumplin (llawfeddyg sydd wedi ymddeol), mae o’n awdurdod a gydnabyddir yn rhyngwladol ar feddyginiaeth Filwrol Napoleonaidd.
Bydd siaradwyr eraill yn sôn am y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mae cinio wedi’i gynnwys ym mhris y tocyn, gan alluogi i chi gyfarfod a sgwrsio gyda’r cyflwynwyr.
Mae tocynnau a rhagor o wybodaeth ar gael yn wefan Cyfeillion Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (FfBC).