Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Geiriau Wrecsam 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gŵyl Geiriau Wrecsam 2021
Pobl a lle

Gŵyl Geiriau Wrecsam 2021

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 22, 2021 1:03 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gŵyl Geiriau Wrecsam 2021
RHANNU

Mae rhaglen llawn adloniant wedi’i drefnu ar gyfer un o brif wyliau llenyddol Cymru. Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ôl am ei 7fed blwyddyn ac wedi dod yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr llenyddol yng Nghymru a’r gororau gan atynnu nifer eang o awduron adnabyddus. Eleni cynhelir yr ŵyl rhwng 17-24 Ebrill a bydd o fewn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl wrth gael ei ddarlledu ar-lein ar sianel You Tube Gŵyl Geiriau Wrecsam.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Ymysg y nifer o awduron fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl 2021 fydd Michael Morpurgo, yr awdur mawr ei barch a ysgrifennodd War Horse a fydd yn sgwrsio gyda Vicki Berwick am yr addasiad dramatig o’i nofel plant diweddar The Mozart Question.

Hefyd yn cymryd rhan eleni fydd y nofelydd trosedd gyda’i gwaith gafaelgar, Clare Mackintosh; brenhines y genre symud o un cyfnod mewn amser i’r llall, Barbara Erskine, y nofelydd hanes enwog Elizabeth Buchan, a meistr y nofel ias a chyffro seicolegol, Neil Spring. Bydd Josiah, mab Amanda Prowse yn ymuno â hi i drafod ei llyfr gwerthwr gorau The Boy Between.

Mae barddoniaeth, cerddoriaeth, hanes, mytholeg, trosedd a hiwmor i gyd yn rhan o’r Ŵyl ar-lein a bydd gweithdai i ysgrifenwyr lleol. Hefyd bydd Elen Caldecott a Hayley Long yn trafod eu llyfrau i oedolion ifanc yn yr Ŵyl eleni.

Yn darllen rhannau o’i lyfr Cymraeg Tre Terfyn bydd yr awdur a’r bardd lleol poblogaidd, Aled Lewis Evans. Bydd beirdd lleol hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn meic agored Viva Voce dan arweiniad Paul Clifton, a bydd y cerddor lleol Luke Gallagher yn rhannu ei straeon tu ôl i’w ganeuon gan roi ongl gwbl newydd i’w gefnogwyr o’i ganeuon.

Bydd ysgrifenwyr lleol ac awduron newydd yn gallu cymryd rhan mewn nifer o weithdai i’w helpu nhw i wella eu sgiliau ysgrifennu creadigol gan gynnwys awgrymiadau ar sut i’w cael nhw wedi’u cyhoeddi, sut i ysgrifennu ar gyfer plant, sut i hyrwyddo eich llyfr a sut i gyhoeddi e-lyfr.

Bydd yr wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau gyda diwrnod o hanes lleol gyda Peter Evans, awdur Resurrection River sydd yn olrhain hanes yr afon Alun, bydd Peter Doyle yn ailadrodd y stori Percy, bachgen ifanc o Gefn Mawr wnaeth ymladd a cholli ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r cyn Lyfrgellydd Cenedlaethol, Andrew Green yn adlewyrchu ar Wales in a Hundred Objects.

Meddai Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Dylan Hughes: “Mae Gŵyl Geiriau yn ôl gyda rhaglen hynod gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau. Y gobaith mewn amser anarferol iawn y bydd yr Ŵyl Geiriau yn gallu dod â llenyddiaeth llawn adloniant i gartrefi pobl leol.”

Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau ar www.wrexhamcarnivalofwords.com (ac wedi’i ail-argraffu isod)

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – yn ôl i’r dechrau? Dim diolch
Erthygl nesaf Dragon Dinners Mae Wrexham wedi gweld ymchwydd mewn mentrau cymdeithasol newydd yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English