Erthyl Gwadd – Yr Eglwys yng Nghymru
Replica anferth wedi’i wneud â llaw o Goron Sant Edward yw canolbwynt Gŵyl Goronau Eglwys San Silyn i nodi blwyddyn Jiwbilî Platinwm y Frenhines eleni.
Mae’r goron, sy’n hongian o’r clochdy, yn wyth troedfedd o led ac wedi cael ei haddurno gan aelodau o gynulleidfa’r eglwys. Mae 100 o goronau llai wedi’u creu gan ysgolion, grwpiau cymunedol a’r gynulleidfa wedi’u harddangos o amgylch yr eglwys.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Coron Sant Edward yw’r goron a ddefnyddir ar gyfer coroni. Cafodd ei chreu ar gyfer Siarl II ym 1661, gan gymryd lle’r goron ganoloesol sydd yn ôl sôn yn dyddio’n ôl i sant brenhinol yr unfed ganrif ar ddeg, Edward y Cyffeswr.
Bydd yr ŵyl ar agor tan ddiwedd mis Awst.
Meddai Ficer San Silyn, Canon Jason Bray, “crëwyd ac addurnwyd y goron fawr gan aelodau cymuned yr eglwys, ond David Lambert, sy’n athro dylunio a thechnoleg yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff sydd wedi bod wrth wraidd y gwaith hwn.
“Mae coronau eraill wedi cael eu creu gan blant Ysgol Gynradd San Silyn yr Eglwys yng Nghymru, grwpiau a chlybiau lleol, plant o’r eglwys, ac aelodau talentog o gymuned yr eglwys. Maent yn cynnwys coron ddrain, gorchuddion tebot siâp coron wedi’u gweu, a choronau technoleg a hanes creadigol gan y plant ysgol.
“Mae hyn yn ychwanegu at hyfrydwch yr eglwys a gobeithiwn y bydd yn denu nifer o ymwelwyr, yn yr un modd â’n Gŵyl Angylion yn gynharach eleni.
Mae Eglwys San Silyn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm i ymwelwyr ac ar ddydd Sul ar gyfer gwasanaethau. Mae croeso i bawb ac nid oes ffi mynediad i’r Ŵyl Goronau.
I ddarganfod mwy, anfonwch e-bost at Eglwys San Silyn ar office@wrexhamparish.org.uk
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH