Oeddech chi’n gwybod ein bod wedi bod yn darlledu cyfarfodydd y Cyngor, Cynllunio a’r Bwrdd Gweithredol ers tro erbyn hyn?
Er bod yna rai rhannau diflas mae yna bynciau sy’n agos at galonnau pawb hefyd fel addysg, tai, gofal cymdeithasol a’r amgylchedd y mae ein haelodau yn gwneud penderfyniadau pwysig iawn arnynt. Penderfyniadau a all effeithio arnoch chi neu eich teulu mewn ryw ffordd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gwnaethom ddechrau darlledu yn Awst 2014 a’r tro diwethaf i ni wirio roedd 130 ohonoch wedi gwylio’r Pwyllgor Cynllunio ar 31 Gorffennaf a 135 wedi gwylio’r Bwrdd Gweithredol ar 11 Gorffennaf. Hoffem weld mwy ohonoch yn dilyn y cyfarfodydd ar eich fôn neu ddyfais dros y misoedd nesaf a byddwn yn cyflwyno’r hyn yr ydym yn feddwl yw rhai o’r eitemau pwysicaf ar gyfer trafodaeth gan obeithio y byddwch yn gwrando ar yr hyn sy’n digwydd.
Nid oes yn rhaid i chi wylio’r darllediad byw ond gallwch wylio o’r archif sy’n mynd yn ôl chwe mis.
Mae’n addas ar gyfer dilyn ar eich cyfrifiadur, ffôn symudol neu ddyfais arall.
Rydym hefyd yn darlledu rhai o’n Pwyllgorau Archwilio yn arbennig y rhai ag eitemau fyddai o ddiddordeb arbennig i chi fel sut yr ydym yn delio gyda nodwyddau wedi eu taflu.
Gallwch gael hyd i’w darllediadau yma.
Os ydych chi eisoes wedi dilyn un o’n gwefannau – naill ai’n fyw neu o’r archif hoffem wybod a oeddech yn meddwl ei fod yn ddefnyddiol. Bydd hyn yn ein helpu pan fyddwn yn penderfynu a ydym am barhau i ddarlledu yn y dyfodol.
E-bostiwch eich sylwadau at committees@wrexham.gov.uk
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI